Mae Zipporah, cwmni digidol o Gaerdydd, wedi lansio ap trefnu ymweliadau ar-lein di-dâl i helpu Cyngor Bro Morgannwg i ailagor ei ganolfannau ailgylchu ac i leihau amserau aros i’r cyhoedd.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fis diwethaf y byddai canolfannau ailgylchu yn cael ailagor fel rhan o’r llacio ar gyfyngiadau’r coronafeirws (COVID-19).
Cafodd mwy na 3,000 o apwyntiadau eu gwneud i ymweld â chanolfannau ailgylchu Bro Morgannwg ar ddiwrnod cyntaf eu hailagor – 10 apwyntiad bob munud.
Enw ap Zipporah yw ‘Generic’ a bydd yn helpu pobl y sir i wneud apwyntiad. Mae’n profi ei hun yn hanfodol i helpu canolfannau ailgylchu i drefnu ymweliadau, cadw pellter a lleihau’r angen i giwio.
Hefyd, mae’n rhoi cyfarwyddiadau clir ar beth i’w wneud cyn ac ar ôl cyrraedd y ganolfan ailgylchu.
Mae awdurdodau lleol y tu allan i Gymru yn defnyddio’r ap hefyd. Mae Zipporah yn ei gynnig i bawb yn gwbl ddi-dâl.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates:
Dyma enghraifft wych o gwmni o Gymru yn gweithredu yn y cyfnod hwn o argyfwng i gyflwyno cynnyrch newydd er lles gwasanaethau cyhoeddus a phobl leol.
Mae’r arwyddion yn dangos bod Generic eisoes yn llwyddiant yng nghanolfannau ailgylchu’r Fro. Mae’n gwbl hanfodol i sicrhau bod pobl yn cadw at y rheolau cadw pellter a’u bod yn gallu mynd a dod yn hyderus a hwylus.
Hoffwn ddiolch i Zipporah a chyngor Bro Morgannwg am gydweithio i ddyfeisio ateb llwyddiannus er lles y cyhoedd.
Dywedodd Scott Burton, cyfarwyddwr technegol Zipporah:
Mae ein ap apwyntiadau eisoes wedi bod yn hynod effeithiol, yn enwedig o ran helpu i agor canolfannau ailgylchu – nid yng Nghymru yn unig, ond yn Lloegr a’r Alban hefyd.
Yn ogystal â rhedeg canolfannau ailgylchu’n esmwyth, mae technoleg Zipporah wedi bod yn hanfodol hefyd i helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol – gan eu cadw eu hunain a’r staff yn ddiogel.
Rydyn ni’n hapus iawn bod y system wedi bod yn gymaint o lwyddiant a lles i’r rheini sy’n ei defnyddio yn y cyfnod anodd hwn.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
Rydym wedi gorfod addasu’r ffordd rydym yn gweithio ers i’r coronafeirws gyrraedd, ac mae’n wych gweld awdurdodau a busnesau lleol yn dod ynghyd ac yn defnyddio technoleg arloesol i wneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnal.
Mae’n hanfodol cadw’r staff a’r cyhoedd mewn canolfannau ailgylchu’n ddiogel. Yn ogystal â sicrhau hynny, mae Generic wedi’i gwneud yn bosib i ganolfannau ailgylchu gael eu rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel i bawb. Gobeithio y gwelwn ragor o’r math hwn o gydweithio yn y dyfodol wrth inni ymateb i’r pandemig.
Dywedodd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:
Rydym yn falch o weld pa mor ddidrafferth y mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref wedi gallu ail-agor ar ôl iddynt fod ar gau am gyfnod.
Fel y rhagwelwyd, roedd y galw am y cyfleusterau hyn yn uchel iawn, ond diolch i gynllunio da a gwaith caled staff y Cyngor, rydym wedi llwyddo i osgoi llawer o broblemau posib o ran ciwio ac amserau aros.
Roedd gweithredu system archebu yn hanfodol i ail-agor y cyfleusterau a hoffem ddiolch i Zipporah am eu cymorth. Mae wedi rhoi meddalwedd ddibynadwy a chadarn inni sydd wedi ymdopi’n dda o dan bwysau mawr.
Dywedodd Stuart Evans sy’n byw ym Mro Morgannwg:
Ar ôl sawl mis o gael gardd yn llawn silffoedd, carped, isgarped etc, roeddwn yn falch o allu mynd i’r ganolfan ailgylchu yn y Bari.
Roedd y slotiau amser wedi gweithio’n berffaith ac roedd yn teimlo mor ‘normal’. Roedd y staff yn drefnus iawn ac yn barod iawn i helpu. Gwaith gwych Cyngor Bro Morgannwg.