Mae Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams wedi ysgrifennu heddiw (dydd Gwener, Mai 29) at y Gweinidog Gwladol ar gyfer Prifysgolion yn Lloegr yn mynegi ‘pryder mawr’ am gynlluniau i gyhoeddi bwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno mesurau rheoli niferoedd myfyrwyr dros dro fel ymateb i bandemig COVID-19.
Yn y llythyr sydd wedi’i anfon at Michelle Donelan, mae’r Gweinidog Addysg yn dweud ei bod yn siomedig bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno mesurau rheoli niferoedd myfyrwyr mewn perthynas â myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr sy’n mynychu sefydliadau yng Nghymru gan ychwanegu ‘nad yw’r dull o weithredu o’r budd gorau i’r DU yn gyffredinol’.
Yn y llythyr mae’n ysgrifennu:
“Rydw i’n hynod bryderus eich bod chi wedi dewis gosod mesurau rheoli ar sefydliadau Cymru yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ateb sy’n cyd-fynd â datganoli.
“Nid wyf yn credu bod y dull o weithredu o’r budd gorau i’r DU yn gyffredinol, ac mae’n dangos amharodrwydd rhyfeddol i barchu polisïau sy’n ategu ei gilydd ym mhob gwlad.
Mae’r Gweinidog yn atgoffa Ms Donelan bod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn ymgynghori ar hyn o bryd â sector AU Cymru ar ddull arfaethedig o fonitro derbyniadau er mwyn cynnal sefydlogrwydd y sector fel ymateb i bandemig Covid-19.
Wedyn mae’n dweud:
“Yn unol â’r dull pedair gwlad o sefydlogi’r system derbyniadau, mae’n anffodus y bydd cynigion Llywodraeth y DU yn torri ar draws gynigion CCAUC sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth â’r sector yng Nghymru.
“Fy mhrif bryder i yw gwarchod buddiannau myfyrwyr Cymru a sefydliadau addysg uwch Cymru.
“Byddaf yn ystyried y canlyniadau i Gymru sy’n codi o bolisi Llywodraeth y DU ac yn gweithredu ymhellach i sicrhau bod y buddiannau hynny’n cael eu gwarchod.
“Bydd y dull o weithredu yng Nghymru i sefydlogi recriwtio myfyrwyr yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â CCAUC a’n sector ni.
“Bydd fy mhenderfyniad i ynghylch sut i symud ymlaen yn seiliedig ar beth sy’n iawn i fyfyrwyr Cymru a Chymru yn gyffredinol.”