Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn gwario hyd at £65m yn ystod y 6 mis nesaf i sicrhau bod gwasanaethau trên yn parhau i weithredu ar rwydwaith Cymru a’r Gororau i weithwyr allweddol ac eraill sy’n ddibynnol ar y trenau er mwyn teithio.
Mae ‘Cytundeb Mesurau Argyfwng’ wedi cael ei gymeradwyo er mwyn helpu Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i ymdopi ag effeithiau parhaus pandemig y coronafeirws.
Mae’n dilyn cytundeb tymor byr cychwynnol gwerth £40m a gadarnhawyd ym mis Mawrth, gan fynd â chyfanswm y gost i uchafswm o £105m (yn amodol ar lefelau refeniw teithwyr).
Mae’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus oddeutu 95% yn llai nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd, wrth i bobl ddilyn y cyngor i aros gartref ac aros yn lleol. Hefyd bydd ad-daliadau tocynnau tymor a gofynion cadw pellter cymdeithasol yn cael effaith hefyd ar refeniw cwmnïau trenau.
Yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws, mae Trafnidiaeth Cymru wedi helpu gweithwyr allweddol i deithio i’r gwaith a sicrhau bod gweithwyr y GIG yn gallu teithio am ddim. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i weithredwyr a chanllawiau i’r cyhoedd ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth:
“Er mwyn achub bywydau rydyn ni wedi gofyn i bobl deithio pan mae hynny’n angenrheidiol yn unig. Mae hyn wedi bod yn hanfodol i iechyd ein cenedl ni ac mae’n gwbl briodol ein bod ni’n bwrw ymlaen yn ofalus cyn annog lefelau uwch o deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Felly rhaid i ni weithredu i sicrhau bod gennym ni rwydwaith rheilffyrdd effeithiol yn y tymor hir. Bydd ein cyllid yn helpu ein gwasanaethau rheilffyrdd i ymdopi â’r colli refeniw anochel o ganlyniad i’r coronafeirws.
“Yn y tymor hir bydd hyn yn sicrhau bod modd rhoi prosiectau seilwaith allweddol ar waith, fel systemau Metro. Yn y tymor byr, bydd hefyd yn golygu bod ein rhwydwaith rheilffyrdd yn gallu parhau i alluogi teithio hanfodol a helpu gweithwyr allweddol i gyrraedd y gwaith, gan gynnwys teithio am ddim i staff y GIG.
“Byddwn yn parhau i weithio tuag at sefydlu’r rhwydwaith rheilffyrdd cryfaf posib yn y tymor hir, fel rhan o’n system drafnidiaeth ehangach.”