Data ar coronafeirws ac ar weithgarwch a chapasiti’r GIG hyd at 10 Mehefin 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19)
Ystadegau am y coronafeirws:
- achosion
- marwolaethau
- nifer yn yr ysbyty
- derbyniadau newydd i’r ysbyty
- gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yng Nghymru
- gwelyau cyffredinol ac acíwt yng Nghymru
- galwadau brys am ambiwlans
- galwadau 111 a galw iechyd Cymru
- derbyniadau i adrannau dacab
- absenoldeb staff y GIG
Rydym bellach wedi dadansoddi data am cleifion mewn ysbytai yn ôl y rhai sydd wedi'u cadarnhau, cleifion posibl neu sy'n gwella o COVID-19. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth, gan gynnwys nodyn ar derminoleg ar gyfer gofal critigol ac ansawdd data yn fwy cyffredinol.
Cyhoeddwyd hwy i ddarparu’r data diweddaraf. Bydd yr ystadegau’n cael eu defnyddio gan Brif Weithredwr y GIG yn ei gynhadledd wythnosol i’r wasg.
Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.
Rydym hefyd yn cyhoeddi data yn wythnosol ar y profion ar gyfer coronafirws (COVID-19).
Adroddiadau
Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): 11 Mehefin 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): 11 Mehefin 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 149 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.