Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yr wythnos hon, sef ddydd Iau 21 Mai, gyda’r partïon yn cymryd rhan o bell. Llywodraeth y DU fydd yn ei gadeirio, a dyma gyfarfod cyntaf y Cyd-bwyllgor ers mis Ionawr.
Rwyf wedi cael trafodaeth ddwyochrog bob wythnos gyda Thâl-feistr Cyffredinol Llywodraeth y DU, yr Aelod Seneddol Penny Mordaunt. Er bod y trafodaethau hynny wedi bod yn gyfle i’w groesawu, nid oedd papurau ysgrifenedig ynghlwm wrthynt felly roeddent o reidrwydd yn gyfyngedig o ran eu heffeithiolrwydd. Felly, byddaf yn parhau i bwyso am gynnal trafodaethau strwythuredig a manwl ar y cyd, sef trafodaethau sy’n cynnwys pob un o’r tair Llywodraeth Ddatganoledig a Llywodraeth y DU, er mwyn trafod y negodiadau ac yn benodol y newidiadau i safbwynt negodi Llywodraeth y DU yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion.
Hefyd bydd yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cyfnod pontio yn cael ei darparu, a byddaf yn galw am ymestyn y cyfnod hwnnw, yng ngoleuni’r pwysau ar bob llywodraeth wrth ymateb i COVID-19. Materion eraill a fydd yn cael eu trafod fel rhan o’r eitem hon fydd parodrwydd gweithredol, deddfwriaeth, a Phrotocol Gogledd Iwerddon.
Yn olaf byddaf yn galw am barhau â’r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, gan godi’r gwaith pwysig a wnaed ar lefel swyddogol y llynedd ynglŷn ag osgoi a datrys anghydfodau, a hefyd yr hyn sy’n cael ei ddysgu yn ystod y pandemig COVID-19. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar ôl y cyfarfod.