Mae Llywodraeth Cymru yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i greu ysbytai maes newydd a chynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael yn gyflym ledled Cymru.
Mae byrddau iechyd wedi addasu adeiladau sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys Stadiwm y Principality, parc gwyliau a stiwdio deledu hyd yn oed, er mwyn darparu 6,000 o welyau ychwanegol.
Diben ysbytai maes yw cefnogi’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws drwy ddarparu gwelyau ychwanegol. Byddant hefyd yn helpu gwasanaethau ysbyty arferol i ailddechrau ac yn cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Fis diwethaf, cafodd y cleifion cyntaf eu derbyn i Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.
Dyma sut y sicrhaodd Cymru bron i ddwbl nifer y gwelyau ysbyty mewn llai nag 8 wythnos:
Rhwng 4 a 6 wythnos
Yr amser y mae wedi ei gymryd i fwy neu lai dyblu nifer y gwelyau ysbyty yng Nghymru, drwy greu ysbytai maes ledled y wlad.
19 o ysbytai maes yng Nghymru
Mae hyn yn cynnwys adeiladau wedi’u haddasu ym Mharc Gwyliau Bluestone a Pharc y Scarlets yn y Gorllewin, a Venue Cymru yn y Gogledd.
1,500 o welyau yn Ysbyty Calon y Ddraig
...sy’n ei wneud yn un o’r ysbytai maes mwyaf yn y DU.
5 diwrnod
Yr amser a gymerodd i gynllunio Ysbyty Calon y Ddraig. Roedd gorgyffwrdd rhwng y cyfnod cynllunio â'r cyfnod adeiladu.
3,000
Nifer yr oriau a gymerodd i gynllunio Ysbyty Calon y Ddraig. Roedd gweithwyr o dros 20 o wahanol ddisgyblaethau yn rhan o’r gwaith cynllunio.
£166m
Cyllid gan Lywodraeth Cymru i sefydlu ac adeiladu ysbytai maes yng Nghymru ac i dalu am offer ar eu cyfer.
138,000
Y nifer o ddarnau o offer sydd wedi cael eu darparu i helpu i gefnogi ysbytai maes, gan gynnwys gwelyau, offer delweddu, gyrwyr chwistrelli a meddyginiaethau.
3 ysbyty maes yn y Gogledd, sydd wedi cael eu galw’n Ysbyty Enfys
Mae enfys yn symbol o obaith ac yn arwydd o ddiolch i'r GIG yn ystod y pandemig.