Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, bydd y pedair Llywodraeth ar draws y DU yn agor gwefan newydd i bobl â symptomau’r coronafeirws sy'n gymwys i archebu prawf cartref. Mae hyn yn rhan bwysig o'n strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu ac fe all pobl ledled Cymru archebu prawf drwy www.gov.wales/coronavirus neu www.llyw.cymru/coronafeirws. Rydym hefyd yn lansio gwasanaeth 119 ledled Cymru a Lloegr a fydd yn sicrhau y gall pobl hefyd archebu prawf.
Rydym yn cyhoeddi ehangiad i’r cymhwystra profi. Mae hyn yn golygu o heddiw ymlaen, y bydd angen i unigolion hunanynysu ar unwaith os byddant yn teimlo colled neu newid yn eu synnwyr blasu neu arogli arferol, ac o heddiw ymlaen byddant yn gymwys i gael prawf. Rhaid i bob aelod o'u haelwyd hefyd hunanynysu yn ôl y canllawiau presennol, oni bai bod yr unigolyn â symptomau yn cael canlyniad prawf negyddol.
Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithredu porth ar-lein i weithwyr hanfodol ar gyfer profion cartref er mwyn sicrhau ein bod yn gallu rheoli capasiti a pharhau i flaenoriaethu adnoddau. Er mwyn cynorthwyo busnesau ac unigolion i nodi pwy sy’n gymwys rydym wedi darparu canllawiau ar y rhestr o weithwyr hanfodol, y gellir ei gweld yma: www.llyw.cymru/polisi-profi-gweithwyr-hanfodol-coronafeirws-covid-19-html.
Rydym yn parhau i weithio ledled Cymru yr wythnos hon i sicrhau bod modd archebu profion ym mhob Canolfan Profi Torfol trwy Ffenest y Car, pob Uned Brofi Symudol a phob Uned Brofi Gymunedol drwy'r wefan newydd. Hyd nes y byddwn wedi sefydlu'r trefniadau llywodraethu perthnasol yna bydd mynediad i safleoedd yn cael ei gynnal drwy drefniadau’r Byrddau Iechyd Lleol. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon ar wefan Llywodraeth Cymru.