Dylai gwenynwyr Cymru fod wedi ymuno â gwenynwyr ledled y byd mewn digwyddiad yn Llundain i ddathlu Diwrnod Gwenyn y Byd (Mai 20).
Yn hytrach, maen nhw’n nodi’r diwrnod drwy gydnabod y gwaith mae’r rheini sy’n gofalu am bobl sy’n sâl a’r henoed yn ei wneud yn ystod y pandemig coronafeirws, ac yn rhannu eu gweithgareddau â gwenynwyr ledled y byd ar-lein.
Bydd nifer ohonyn nhw yn mynd â jariau o fêl i gartrefi gofal ac ysbytai lleol. Y nod yw codi calon y staff a dangos eu diolchgarwch i’r rheini sy’n gweithio ar y rheng flaen.
Mae’r grŵp o wenynwyr* yn aelodau o Glwstwr Mêl Llywodraeth Cymru. Mae’r Clwstwr yn rhaglen datblygu busnesau sydd â’r nod o helpu busnesau mêl Cymru i greu swyddi a chyflawni twf economaidd gynaliadwy drwy ddarparu cymorth sy’n benodol i’r sector.
Dywedodd Arweinydd Clwstwr Mêl Cymru Haf Wyn Hughes:
Dyma ffordd y gwenynwyr o ddweud ‘diolch’ i’r rheini sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y cyfnod cythryblus a phryderus hwn.
Mae’r galw am fêl o Gymru wedi cynyddu, ac mae gwenynwyr wedi bod ar flaen y gad wrth annog pobl i brynu cynnyrch lleol.
Fis diwethaf creodd Clwstwr Mêl Cymru fap o aelodau’r Clwster, i godi ymwybyddiaeth prynwyr. Nawr mae’r aelodau hynny’n dathlu Diwrnod Gwenyn y Byd drwy gefnogi eu cymunedau eu hunain.
Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd gwenyn i’r ecosystem, gyda chymaint â 170,000 o rywogaethau o blanhigion yn dibynnu ar wenyn i gael eu peillio. Yn ei dro, mae hyn yn cyfateb i un llwyaid o bob tair o fwyd yn dibynnu ar beillio.
Bob blwyddyn mae’r DU yn cynhyrchu 3,000–4,000 tunnell o fêl – gyda thuag 10% o’r mêl hwn yn dod y Gymru. Fodd bynnag, mae hynny’n llai nag un y cant o’r holl fêl sy’n cael ei fwyta yn y DU, gan fod tua 35,000 tunnell yn cael eu mewnfudo i fodloni galw prynwyr.
Mae prynwyr yn ystyried mêl Cymru yn gynnyrch o’r radd flaenaf. Ni ellir gweithgynhyrchu mêl – yr unig ffordd o gynyddu argaeledd mêl Cymru yw cynyddu nifer y cytrefi gwenyn yng Nghymru, a datblygu llwybrau i’r farchnad. Mae cymryd rhan yn Niwrnod Gwenyn y Byd yn gyfle pwysig i wenynwyr Cymru gael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Meddai Haf.
Mae Diwrnod Gwenyn y Byd wedi cael ei ddynodi gan y Cenhedloedd Unedig, a chafodd ei sefydlu i gydnabod rôl gwenyn a pheillwyr eraill mewn datblygu cynaliadwy, diogelu’r cyflenwad bwyd a bioamrywiaeth.
Dewiswyd y dyddiad i gydnabod y gwenynwr o Slofenia, Anton Janša. Cafodd ei eni ar 20 Mai 1734 yn Carniola (Slofeniad erbyn hyn) ac mae’n cael ei gydnabod fel tad gwenyna.
Mae Llysgenhadaeth Slofenia, a oedd i fod i gynnal dathliadau Diwrnod Gwenyn y Byd, yn galw ar wenynwyr i godi ymhellach yr ymwybyddiaeth o rôl hanfodol gwenynwyr wrth gynnal ein hamgylchedd naturiol, drwy gymryd rhan yn ei hymgyrch cyfryngau cymdeithasol.
Bydd gwenynwyr ledled y byd yn rhannu eu gweithgareddau drwy’r cyfryngau cymdeithasol – byddan nhw’n defnyddio’r hashnodiadau #WorldBeeDay #SavetheBees.
Bydd gwenynwyr Cymru yn defnyddio’r hashnod #ClwstwrMêlCymru hefyd, a bydd logo Clwstwr Mêl Cymru ar y jariau o fêl sy’n cael eu rhoi.
Dywedodd Llysgennad Slofenia, Tadej Rupel:
“Hyd yn oed ar yr adeg hon, pan fydd bywyd arferol i bob pwrpas ar stop wrth i bobl ledled y byd gymryd camau digynsail i atal y pandemig COVID-19, mae gweithgareddau hanfodol ein gwenyn diwyd yn parhau yn ddi-dor, wrth iddyn nhw fynd ati i beillio planhigion a gwneud mêl. Yn yr un mod ag y maen nhw wedi gwneud ers miloedd o flynyddoedd – yn gweithio’n un â natur.
Felly, dw i wrth fy modd bod Cymru a Chlwstwr Mêl Cymru yn cymryd rhan yn y gweithgareddau i ddathlu Diwrnod Gwenyn y Byd, ac yn ymuno â ni i godi ymhellach ymwybyddiaeth o’r rôl hanfodol mae gwenyn yn ei chwarae wrth gynnal ein hamgylchedd naturiol.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Hoffwn i ddiolch i holl aelodau Clwstwr Mêl Cymru sydd wedi cymryd rhan yn yr ymdrech hon i ddangos eu cefnogaeth i ofalwyr.
“Dw i’n sicr y bydd y rhai sy’n parhau i ddarparu gofal hanfodol ledled Cymru yn gwerthfawrogi eu hymdrechion.Mae hefyd yn dda iawn gen i weld bod y galw am fêl o Gymru wedi cynyddu, a dylen ni longyfarch ein gwenynwyr am eu hymdrechion parhaus wrth gyflenwi eu cynhyrchion, a sicrhau bod cadwyni cyflenwi’n parhau i weithredu, mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd i lawer yn y sector bwyd a diod.
Hoffwn hefyd ddiolch i bawb sydd wedi parhau i weithio fel rhan o’r fenter Caru Gwenyn, gan gydlynu ymdrechion i wneud Cymru yn genedl gyfeillgar i beillwyr.
Mae eu gwaith caled yn cefnogi nid yn unig busnesau, ond cymunedau hefyd, ac er nad yw pobl yn gallu mynd i’r digwyddiadau a oedd ar y gweill ar gyfer Diwrnod Gwenyn y Byd, dw i’n siŵr y bydd llawer am fachu ar y cyfle hwn i ddathlu’r sector hanfodol hwn beth bynnag – a dw i’n annog prynwyr i sicrhau bod y cynnydd diweddar yn a galw am fêl o Gymru yn parhau.