Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd aelodau'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau ym maes profion COVID-19 mewn cartrefi gofal.
Mae diogelu ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19. Mae pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal a lleoliadau preswyl tebyg eraill ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed, gan fod llawer ohonynt yn dibynnu ar ofal personol agos.
Mae profi mewn cartrefi gofal wedi bod yn hollbwysig er mwyn atal a rheoli achosion. Ond er mwyn lleihau cyfraddau heintio, rhaid i brofion gael eu hategu gan gamau i reoli'r haint yn fwy cyffredinol. Adlewyrchir hyn yn y pecyn a gyhoeddais ar 2 Mai a wnaeth ymestyn y trefniadau profi drwy'r ffyrdd canlynol:
- Targedu'r ardaloedd lle ceir y nifer mwyaf o achosion, a allai gynnwys defnyddio ein hunedau symudol i brofi'r holl breswylwyr mewn cartrefi gofal lle mae achos yn codi;
- Targedu'r cartrefi gofal mwyaf (lle ceir mwy na 50 o welyau) sy'n wynebu risg uwch o achosion oherwydd eu maint.
Rwyf wedi pwysleisio bod amddiffyn staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn flaenoriaeth ac rwyf am fod yn siŵr ein bod yn gwneud popeth sydd angen i ni ei wneud i gadw staff a phreswylwyr yn ddiogel. I'r perwyl hwn, rydym wedi bod yn monitro'r dystiolaeth sy'n datblygu yn agos ac yn ymateb iddi. Mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) wedi cyflwyno cyngor newydd ar sut y dylid cynnal profion mewn cartrefi gofal er mwyn helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo i gartrefi gofal ac o'u mewn. Mewn ymateb i'r cyngor hwn, rwyf yn cyfarwyddo Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Byrddau Iechyd Lleol i gymryd camau pellach ar unwaith mewn perthynas â phrofion yn ein cartrefi gofal. Mae hyn yn ymestyn y pecyn a gyhoeddais ar 2 Mai.
Mesurau Diogelu Pellach
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi y byddwn yn dechrau profi pob cartref gofal a'r staff sy'n gweithio ynddynt. Yn benodol:
- Mewn cartrefi gofal lle gwelwyd digwyddiadau / achosion cyn mis Mai, byddwn yn cynnig profion i'r holl breswylwyr a staff nad ydynt wedi cael prawf positif am COVID-19 yn barod. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gartref gofal sydd wedi cael achos posibl neu achos a gadarnhawyd o COVID-19 ymhlith staff neu breswylwyr o fewn y 28 diwrnod diwethaf, yn gymwys i gael profion ar gyfer y staff a'r preswylwyr i gyd.
- Caiff profion eu cynnig hefyd i'r holl staff a phreswylwyr symptomatig ac asymptomatig nad ydynt wedi cael prawf positif am COVID-19 o'r blaen, hyd yn oed os nad yw'r cartref wedi rhoi gwybod am achosion posibl neu achosion a gadarnhawyd. Gan ddefnyddio porth Llywodraeth y DU, bydd cartrefi gofal yn gallu swmparchebu pecynnau profi fel y gellir cynnal profion ym mhob cartref gofal ymhen rhai wythnosau.
- Pan fydd prawf gwrthgorff cyfresol ar gael, cynigir hefyd y caiff staff cartrefi gofal eu profi fel y gallwn amcangyfrif nifer yr achosion dros amser.
Drwy gymryd y camau hyn gallwn nodi achosion lle cafodd COVID-19 ei drosglwyddo i gartrefi gofal yn gynnar, gan roi sicrwydd i gartrefi gofal bod gweithdrefnau rheoli'r haint yn gadarn. Byddant hefyd yn adnodd goruchwylio defnyddiol wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu codi.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio profion mewn cartrefi gofal fel rhan o'n gwaith i ddiogelu staff a phreswylwyr cartrefi gofal rhag COVID-19 a thrin yr haint yn gyflym ac yn effeithiol lle bo angen.