Dylech ddefnyddio’r system ar-lein (ar GOV.UK) neu ffonio llinell gymorth DEFRA (03459 33 55 77) os byddwch yn dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw.
Bydd gofyn i chi nodi’r canlynol:
- ble y gwnaethoch ddarganfod yr adar marw
- pa fath o adar marw rydych wedi’u darganfod
- faint o adar marw rydych wedi’u darganfod
- eich manylion cyswllt [cliciwch yma i gael gwybod sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio]
Peidiwch â rhoi gwybod i linell gymorth DEFRA am adar gwyllt sâl neu wedi’u clwyfo y gwelwch chi. Ffoniwch yr RSPCA (yng Nghymru neu Loegr) ar 0300 1234 999 am help.
Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn casglu rhai o’r adar gwyllt marw hyn a’u profi i’n helpu ni i ddeall dosbarthiad daearyddol y clefyd a’r mathau gwahanol o adar mae’r clefyd yn effeithio arnynt. Ni fydd pob aderyn yn cael ei gasglu.
Os nad oes angen aderyn marw at ddibenion monitro, y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am gael gwared ar y carcas mewn modd diogel.
I gael map rhyngweithiol o'r holl ganfyddiadau adar gwyllt hyd yma, ewch i wefan APHA