Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg
Heddiw rwyf yn cyhoeddi Fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant: ystyriaethau, cynlluniau a heriau. Mae hyn yn adeiladu ar y pum egwyddor a gyhoeddais fis diwethaf:
- Diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol y myfyrwyr a’r staff
- Parhau i gyfrannu at yr ymdrech a’r strategaeth genedlaethol ar gyfer brwydro yn erbyn lledaeniad COVID-19
- Ennyn hyder rhieni, staff a myfyrwyr – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – fel eu bod yn gallu cynllunio ymlaen
- Gallu blaenoriaethu dysgwyr mewn camau allweddol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig
- Sicrhau bod cyfarwyddyd yn ei le i gefnogi mesurau fel cadw pellter, rheoli presenoldeb a chamau gweithredu gwarchodol ehangach
Mae’r ddogfen yn nodi ein meddwl cyfredol o ran sut rydym yn newid gweithrediadau ysgolion a darparwyr eraill dros amser mewn ymateb i COVID-19.
Rydym yn gweithio gyda gwyddonwyr, arbenigwyr iechyd y cyhoedd, athrawon, darparwyr addysg, undebau llafur ac awdurdodau lleol i ystyried yr opsiynau ar gyfer y cam nesaf i ysgolion a lleoliadau gyda heriau tebyg, fel darparwyr gofal plant a cholegau addysg bellach.