Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Mae’r datganiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar faterion yn ymwneud ag ymadawiad y DU â’r UE, gan ganolbwyntio ar sefyllfa ddiweddaraf y trafodaethau ar berthynas y DU a’r UE yn y dyfodol a goblygiadau hyn i’r rhaglen waith enfawr a chymhleth y bydd ei hangen erbyn diwedd y cyfnod pontio, o gofio bod llywodraethau yn y DU a’r UE yn canolbwyntio ar ymateb i COVID-19.
Ymateb i’r pandemig COVID-19 yw blaenoriaeth bennaf Llywodraeth Cymru o hyd, ac rydym yn dal i gredu y dylid rhewi’r trafodaethau ar berthynas y DU a’r UE yn y dyfodol a cheisio estyniad i’r cyfnod pontio. Er gwaethaf gwirionedd yr argyfwng presennol, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddadlau bod modd cwblhau’r trafodaethau, a’r gwaith angenrheidiol i weithredu cytundeb, yn llwyddiannus ochr yn ochr â delio â’r argyfwng cenedlaethol presennol. Nid ydym wedi gweld dim tystiolaeth i gefnogi’r safbwynt hwnnw.
Trafodaethau’r UE a’r DU
Yn ddealladwy, cafodd y trafodaethau ffurfiol rhwng y DU a’r UE eu rhewi wrth i bawb droi eu sylw at ymateb i COVID-19 a chadw ein holl ddinasyddion yn ddiogel. Ailddechreuodd y trafodaethau yn yr wythnos a oedd yn dechrau 20 Ebrill, ond gyda llai’n cymryd rhan a thrwy fideogynadledda.
Ar ddiwedd yr ail rownd lawn o drafodaethau, roedd hi’n amlwg bod gwahaniaethau mawr yn dal i fod rhwng y ddwy ochr, fel yr eglurodd Michel Barnier mewn sylwadau diweddar. Dyma rai o’r gwahaniaethau mwyaf: amharodrwydd Llywodraeth y DU i gytuno i safonau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cyffredin y mae’r UE yn mynnu ddylai fod yn sail i’r cytundeb masnach di-dariff, di-gwota a ragwelir; y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod unrhyw rôl i Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas ag agweddau ar y berthynas yn y dyfodol; barn Llywodraeth y DU y dylai yna fod sawl cytundeb ar wahân yn hytrach nag un cytundeb cyffredinol sef yr hyn a ffefrir gan yr UE; a hawliau pysgota. Ymddengys nad oes llawer o gynnydd wedi bod tuag at ddatrys y gwahaniaethau sylfaenol hyn er ein bod nawr hanner ffordd rhwng cyhoeddi’r mandadau negodi a’r terfyn amser hollbwysig ddiwedd mis Mehefin (sef, o dan delerau’r Cytundeb Ymadael, y cyfle olaf i gytuno ar estyniad i’r cyfnod pontio).
Hyd yma, mae’r trafodaethau wedi canolbwyntio ar gyflwyno ac egluro safbwyntiau negodi. Os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i geisio gweithio yn unol â’r amserlen wreiddiol yna bydd angen i’r trafodaethau ddod i gytundeb yn gyflym. Bydd hyn yn gofyn am gyfaddawdu a bod yn bragmatig. Er gwaethaf pob ymdrech, bydd yna gyfyngiadau anochel ar yr hyn y gellir ei gyflawni drwy fideogynadledda yn hytrach na thrafodaethau wyneb yn wyneb, yn enwedig pan fo gwahaniaethau sylfaenol clir rhwng y ddwy ochr.
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod ystyried estyn diwedd y cyfnod pontio. Mae’n gwneud hyn er gwaethaf ceisiadau gennym ni a llawer o rai eraill i rewi’r trafodaethau ac estyn y cyfnod pontio, gan gydnabod y newid sylfaenol sydd wedi bod mewn amgylchiadau economaidd a chymdeithasol yn sgil y pandemig COVID-19. Mae’n peri pryder mawr o dan yr amgylchiadau presennol y byddwn yn gadael y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020. Rhaid inni ganolbwyntio ar gydweithio i fynd i’r afael â COVID-19 a’r canlyniadau economaidd wedi hynny. Fel arall, bydd yr ysgytwad economaidd sy’n siŵr o gael ei achosi gan newid yn ein perthynas economaidd â’r UE yn ychwanegu’n ddiangen at y problemau hyn. Rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod hefyd fod cynnal trafodaethau cymhleth o dan yr amgylchiadau cyfyngedig hyn yn annhebygol o arwain at ganlyniad sy’n diogelu ein buddiannau.
Mae ymgysylltiad Llywodraeth y DU â’r Llywodraethau Datganoledig ynglŷn â’r trafodaethau yn parhau’n ddiffygiol: er gwaethaf addewidion i wella hyn wrth i’r trafodaethau ar y berthynas yn y dyfodol ddechrau, aeth yr ymgysylltiad â Gweinidogion hyd yn oed yn fwy annigonol. Er gwaethaf ei hymrwymiad ffurfiol yng nghylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) i geisio cytundeb â’r Llywodraethau Datganoledig ar y trafodaethau, mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi cyfle ystyrlon inni gael dylanwad. Er ein bod wedi’i gwneud yn glir na allwn gefnogi safbwynt Llywodraeth y DU gan nad yw’n cynrychioli buddiannau Cymru, fel llywodraeth gyfrifol, byddwn yn parhau i fanteisio ar unrhyw gyfle i ddadlau ein hachos ar bwyntiau penodol. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i godi llais dros yr hyn yr ydym yn credu sydd er budd Cymru yn y trafodaethau hyn, gan wneud hynny wrth ddelio â Llywodraeth y DU a’r cyhoedd.
Mae cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn cael ei drefnu ar gyfer canol mis Mai. Dyma fydd y cyfarfod cyntaf ers mis Ionawr. Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau dwyochrog yr wythnos hon a’r wythnos diwethaf â Thâl-feistr Cyffredinol Llywodraeth y DU, Penny Mordaunt AS. Croesawir y galwadau byr hyn ond maent yn anorfod yn gyfyngedig eu heffeithiolrwydd felly rwy’n parhau i bwyso am drafodaethau strwythuredig, cyfunol a manwl sy’n cynnwys y tair Llywodraeth Ddatganoledig a Llywodraeth y DU ar y negodiadau, ac yn enwedig ar newidiadau i safbwynt negodi Llywodraeth y DU.
Gweithredu’r Ymadawiad â’r UE
Mae sefyllfa ansicr a phryderus iawn y trafodaethau â’r UE yn ychwanegu at y pwysau a’r risgiau sy’n ein hwynebu wrth baratoi at ddiwedd y cyfnod pontio – yn enwedig o ran parodrwydd, deddfwriaeth, fframweithiau, polisi a chyllid.
O ran parodrwydd yn gyffredinol, ar ddiwedd y cyfnod pontio bydd angen inni allu gweithredu unrhyw gytundeb y daethpwyd iddo ar berthynas y DU a’r UE yn y dyfodol, neu reoli’r goblygiadau os na chyrhaeddir cytundeb o’r fath. Mae’n bosibl na fyddwn yn gwybod tan yr hydref, neu’n hwyrach hyd yn oed, ba sefyllfa fydd yn ein hwynebu.
Mae COVID-19 eisoes wedi effeithio ar gapasiti presennol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i baratoi at ddiwedd y cyfnod pontio. Yn fwy sylfaenol, mae graddfa’r argyfwng presennol wedi cael effaith enfawr ar allu pobl, busnesau a sefydliadau eraill i ystyried diwedd y cyfnod pontio, heb sôn am gymryd camau i baratoi ato. Bydd peryglon hyn yn cynyddu pe bai newidiadau sylweddol i fasnach a chyflenwadau cyflenwi yn taro busnesau sydd eisoes yn fregus, na fydd yn barod ac a fydd yn dal i ddioddef effaith y pandemig – gan arwain o bosibl at oblygiadau difrifol ledled Cymru.
Rydym wedi pwyso droeon ar Lywodraeth y DU i weithio gyda’r Llywodraethau Datganoledig ar y paratoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, fel y digwyddodd – yn y pen draw – ar y paratoadau ar gyfer senario ‘dim cytundeb’ yn 2019. Serch hynny, mae Llywodraeth y DU ar lefel ganolog yn dewis peidio â rhannu gwybodaeth na gweithio gyda’r Llywodraethau Datganoledig ar yr ystod eang o waith paratoi y gwyddom y mae’n ceisio ei gyflawni, gan gynnwys gwaith ar weithredu Protocol Gogledd Iwerddon. Fel y gwnaethom hi’n glir yn ystod y gwaith ar senario ‘dim cytundeb’, nid yw’n bosibl i Lywodraeth Cymru baratoi Cymru at ba sefyllfa bynnag sy’n ein hwynebu ar ddiwedd y cyfnod pontio ar wahân i waith Llywodraeth y DU yn Lloegr neu ar lefel y DU. At hynny, mae’n amhosibl i’r DU yn ei chyfanrwydd baratoi’n briodol os nad yw Llywodraeth y DU yn gweithio’n effeithiol gyda’r Llywodraethau Datganoledig. Felly, mae amharodrwydd parhaus Llywodraeth y DU i rannu gwybodaeth a gweithio gyda’r Llywodraethau Datganoledig – a’r misoedd o amser i gyd-baratoi a gollir o ganlyniad – yn peri pryder difrifol.
O ran deddfwriaeth, mae lefel uchel o ansicrwydd yn parhau, a chymharol gyfyngedig yw’r wybodaeth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU ar gwmpas a natur y ddeddfwriaeth angenrheidiol. Mae hyn yn arbennig o wir o ran rhoi’r Cytundeb Ymadael a chytundebau perthnasol ar waith, a llai fyth o sicrwydd o ran cytuniad posibl ar y berthynas â’r UE yn y dyfodol. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU rannu cynllun credadwy ynglŷn â sut y gellir pasio pob deddfwriaeth angenrheidiol erbyn diwedd mis Rhagfyr, ond nid ydynt wedi gwneud hyn. Mae gweithredu’r Cytundeb Ymadael yn llwyddiannus yn gofyn am ddull ar gyfer y DU gyfan, neu o leiaf am gyd-ddealltwriaeth rhwng gwledydd y DU, ac ni ellir cyflawni hyn heb fewnbwn gan Lywodraeth y DU. Rydym yn ymwybodol iawn ei bod yn debygol y bydd angen rhaglen arwyddocaol o offerynnau statudol a byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni ar ddeddfwriaeth o’r fath i sicrhau bod y setliad datganoli’n cael ei barchu’n briodol.
At hynny, mae angen gwneud gwaith helaeth mewn perthynas â ‘fframweithiau cyffredin’ erbyn diwedd 2020. Mae swyddogion o’r pedair gweinyddiaeth wedi bod yn cydweithio i ystyried sut i ddarparu’r meysydd fframwaith pwysicaf. Ond bydd hyd yn oed cyflawni hyn erbyn diwedd y flwyddyn yn anodd. Yn ehangach, mae gwaith yn ymwneud â fframweithiau cyffredin a’r farchnad fewnol yn dangos yn glir sut y gallai cysylltiadau rhynglywodraethol a materion cyfansoddiadol / datganoli dyfu’n sylweddol o ran eu hehangder a’u cymhlethdod yn y dyfodol. Mae llawer o waith i’w wneud mewn cyfnod byr i ddatrys heriau posibl a chynnal tirwedd economaidd a chyfansoddiadol cadarnhaol yn y DU.
Yn ogystal â fframweithiau, mae agenda bolisi eang sy’n ymwneud â’r ymadawiad â’r UE, sy’n cwmpasu llunio polisïau yng Nghymru (er enghraifft, o ran y polisi amaethyddol yn y dyfodol) a’n hangen i geisio dylanwadu ar lunio polisïau ar lefel y DU (er enghraifft, ynglŷn â sut y bydd marchnad fewnol y DU yn gweithredu, ac ar bolisi mudo) i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion Cymru. Bydd angen graddnodi hyn i gyd hefyd yn unol â’r adferiad o argyfwng COVID-19.
Hefyd, mae set bwysig o faterion yn ymwneud â chyllid. Mae tua £700m y flwyddyn yn dod i Gymru yn awr o’r UE a gan fod sicrwydd byrdymor gan Lywodraeth y DU ar agweddau ar hyn, mae angen inni ddiogelu ein buddiannau mewn penderfyniadau cyllid hirdymor, yn enwedig o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) a chyllid datblygu amaethyddol a gwledig yn y dyfodol. Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gadw ei haddewidion na fydd Cymru geiniog ar ei cholled o ganlyniad i’r ymadawiad â’r UE, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am ddosbarthu’r cyllid hwn yng Nghymru.
Mae’r datganiad hwn yn dangos graddfa a chymhlethdod y gwaith ar faterion yn ymwneud â’r ymadawiad â’r UE sy’n ein hwynebu yng ngweddill 2020 ac yn dangos sut y mae’n cysylltu â’r gwirioneddau a’r gwaith newydd sy’n deillio o bandemig COVID-19. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth a allwn i geisio dylanwadu ar y trafodaethau a gweithio ar y paratoadau angenrheidiol erbyn diwedd y cyfnod pontio. Ond mae hyn wedi’i gyfyngu gan ddull gweithredu presennol Llywodraeth y DU. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar y datblygiadau, yn enwedig cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) y disgwylir iddo gael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn.