Crynodeb cofnodion Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl: 16 Mai 2019
Crynodeb o gofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl a gynhaliwyd ar 16 Mai 2019.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Hwn oedd y cyfarfod cyntaf a fynychwyd gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bu oedi cyn galw’r cyfarfod hwn oherwydd y posibilrwydd o gyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn sgil ei Ymchwiliad i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’i effaith ar ofalwyr. (Roedd disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ddechrau haf 2019 erbyn hyn).
Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog bwysigrwydd gofalwyr yn ei phortffolio, a chroesawodd gyfraniad a chyngor grŵp cynghori fel ffordd allweddol o roi adborth i Weinidogion Cymru. Hefyd, cyhoeddodd ei hamcan o ddatblygu a chyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd i ofalwyr yn 2020.
Bu’r aelodau’n trafod dulliau adnabod gofalwyr, gan gynnwys: eu helpu i hunan adnabod; sut i helpu gofalwyr i ddeall eu hawliau; pwysigrwydd ystyried ymchwil a data cyfredol; sut mae sectorau eraill e.e. y sector tai hefyd yn gallu effeithio ar fywydau gofalwyr a bod mewn sefyllfa i’w cynorthwyo nhw; y defnydd o wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth; termau gwahanol yn ymwneud â gofalwyr; proses anghenion gofalwyr; ac anghenion gofalwyr ifanc.
Rhoddodd swyddogion y wybodaeth ddiweddar i’r aelodau am y Gronfa Gofal Integredig a chanllawiau cysylltiedig gan gynnwys yr ymgynghoriad diweddar i ddiweddaru Rhan 9 o Ddeddf 2014 a ychwanegodd gynrychiolaeth y sector addysg.
Roedd swyddogion yn adolygu holl gynlluniau buddsoddi’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer cymorth y Gronfa Gofal Integredig 2019-20. Roedd canllawiau 2019-20 wedi nodi’r angen am gymorth gwell i ofalwyr, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol am fwy o wybodaeth am eu gwariant arfaethedig, lle nodwyd gofalwyr fel y prif fuddiolwr. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’n darparu adroddiad blynyddol i’r Gronfa Gofal Integredig ac yn cynnwys astudiaethau achos yn ogystal â gwerthusiad canol tymor.
Cafwyd diweddariad am drafodaethau am gyllid gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Roedd adolygiad gwariant 2020-21 y DU ar y gweill, ac roedd Gweinidogion Cymru wedi ffurfio pwyllgor i drafod y posibilrwydd o ddefnyddio’r pwerau codi trethi newydd i ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cafwyd diweddariad cryno gan Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, ac yna Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, am eu prosiectau newydd yn 2019-20, sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i gefnogi gwaith Grŵp Cynghori’r Gweinidog. Bu’r aelodau’n trafod ehangu gweithgareddau’r Grŵp Cynghori yn ddau faes – y naill i ymgysylltu â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel y nodwyd gan Fforwm Cymru Gyfan; a’r llall gan Ymddiriedolwyr Gofalwyr Cymru i greu grŵp ymgysylltu ac atebolrwydd newydd a allai weithio gyda’r Grŵp Cynghori.
Holodd yr aelodau am amserlen bosib creu cynllun cenedlaethol newydd i ofalwyr. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai angen pennu cynnwys a chyfeiriad craidd ar gyfer y cynllun newydd erbyn y gwanwyn 2020, ar y cyd â Grŵp Cynghori’r Gweinidog.
Pwyntiau gweithredu sy’n codi
- Byddai Fforwm Cymru Gyfan yn cysylltu â’r aelodau ynglŷn â’u Byrddau Partneriaeth Lleol a’u sianeli cyfathrebu gofalwyr cyfredol, er mwyn mapio’r rhain ac archwilio lle gall eu prosiect newydd wella gallu gofalwyr i ymgysylltu â gwaith y Byrddau Partneriaeth lleol, a allai ychwanegu gwerth gorau. Byddai’r ysgrifenyddiaeth yn creu log materion er mwyn cofnodi syniadau nad ydynt o bosibl yn ymarferol yn y dyfodol agos, ond a allai fod yn ymarferol yn y dyfodol pe bai’r amgylchedd cyllido ehangach yn newid.