Mae'r ymchwil ragarweiniol hon yn asesu’r effaith yng Nghymru ar waharddiad neu gyfyngiad ar werthu eitemau yn y Gyfarwyddeb ar blastigau untro yr UE.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Yr effeithiau economaidd
Lluniwyd amcangyfrif o effeithiau economaidd gwaharddiad neu gyfyngiadau ar werthu yng Nghymru yr eitemau a nodir yng Nghyfarwyddeb Cynnyrch Plastig Untro yr UE gan ddefnyddio model meintiol, a nodwyd gwerth ariannol net presennol yr effeithiau hynny dros gyfnod o 2021 hyd 2030. Gwelwyd yr effaith economaidd fwyaf ar werth gwariant, gyda chynnydd o 11% (£14 miliwn) ar draws y grŵp cynnyrch cyfan.
Y refeniw i weithgynhyrchwyr yn y DU yw’r effaith economaidd fwyaf ond un a amcangyfrifir gan y model, gyda chynnydd o 46% (£9 miliwn). Gellid cadw’r refeniw hwn yn economi Cymru pe bai gweithgynhyrchwyr yng Nghymru yn ymateb i’r galw am gynnyrch di-blastig.
Yr effeithiau cymdeithasol
Trafododd y rhanddeiliaid yr effeithiau cymdeithasol posibl, yn enwedig yr effeithiau ar grwpiau sy’n agored i niwed megis pobl anabl neu bobl sydd â llai o symudedd. Roedd y mwyafrif llethol o blaid esemptiadau ar gyfer grwpiau o’r fath ac ar gyfer defnydd meddygol. Er bod rhai rhanddeiliaid hefyd o blaid esemptiad mewn achosion lle gellir profi bod angen oherwydd materion diogelwch bwyd, roedd rhanddeiliaid eraill yn gwrthwynebu hynny er mwyn osgoi creu diangfeydd cyfreithiol a gwyrdroi’r farchnad.
Dywedodd rhanddeiliaid bod angen defnyddio nifer o ieithoedd gwahanol a siaredir yng Nghymru i gyfathrebu ynghylch unrhyw reolau a rheoliadau newydd.
Yr effeithiau amgylcheddol
Roedd dewisiadau amgen di-blastig ar gael yn lle’r holl gynnyrch plastig untro a nodir yng Nghyfarwyddeb Cynnyrch Plastig Untro yr UE ar gyfer y farchnad yng Nghymru, ac eithrio gwellt cartonau diodydd, a ddefnyddir hefyd i dorri sêl y carton.
Roedd gwaith ymchwil desg wedi canfod bod dwy astudiaeth dadansoddi cylch bywyd wedi eu cynnal yn ddiweddar i gymharu effeithiau amgylcheddol cynnyrch plastig untro a chynnyrch di-blastig untro o ran llawer o’r eitemau sydd wedi eu gwahardd gan Gyfarwyddeb yr UE. Ar y cyfan, canfyddiad yr astudiaethau oedd bod y cynnyrch di-blastig untro a ddadansoddwyd wedi perfformio’n well na’r cynnyrch plastig untro, neu gystal.
Ymchwil i’r farchnad
Nododd y gwaith ymchwil cychwynnol i’r farchnad bod eitemau plastig a di-blastig y cynnyrch hyn yn cael eu gweithgynhyrchu yng Nghymru, sy’n golygu y bydd gwaharddiad neu gyfyngiadau ar eu gwerthu yn creu cyfleoedd yn ogystal â heriau i fusnesau yng Nghymru.
Bydd gwaharddiad neu gyfyngiadau ar werthu’r cynnyrch hefyd yn effeithio ar fusnesau yng Nghymru sy’n defnyddio neu’n gwerthu’r cynnyrch. Bydd costau pontio yn sgil unrhyw newid, ond mae’r ymchwil a gynhaliwyd gyda’r rhanddeiliaid yn awgrymu bod yr effeithiau cyffredinol ar y busnesau hyn yn debygol o fod yn fach os oes cynnyrch di-blastig ar gael am gostau tebyg a phan fo’r cynnyrch hyn yn cynrychioli cyfran fach o gostau’r busnes cyfan.
Dywedodd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy eu bod, ar y cyfan, o blaid gwaharddiad.
Adroddiadau
Ymchwil rhagarweiniol i asesu effeithiau gwaharddiad neu gyfyngiadau ar werthu yng Nghymru eitemau sydd yng nghyfarwyddeb plastigau untro yr UE , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymchwil rhagarweiniol i asesu effeithiau gwaharddiad neu gyfyngiadau ar werthu yng Nghymru eitemau sydd yng nghyfarwyddeb plastigau untro yr UE: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 289 KB
Cyswllt
Isabella Malet-Lambert
Rhif ffôn: 0300 062 8250
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.