Presenoldeb mewn lleoliadau awdurdod lleol yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19): 27 Ebrill i 1 Mai 2020
Presenoldeb plant a staff yn ystod yr wythnos (ac eithrio gwyliau banc) mewn lleoliadau awdurdodau lleol yn ystod y pandemig coronafeirws parhaus ar gyfer 27 Ebrill i 1 Mai 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Prif ffigurau cenedlaethol
Yn ystod yr wythnos o 27 Ebrill i 1 Mai:
- Ar gyfartaledd roedd 519 lleoliad ar agor bob dydd, dim newid dros y wythnos flaenorol. Roedd 583 o leoliadau ar agor ar gyfartaledd yn ystod yr wythnos cyn gwyliau ysgol y Pasg. Mae mwy o awdurdodau lleol wedi symud tuag at ddefnyddio ‘hybiau’ ers i ni ddechrau casglu’r data.
- Roedd 4,400 o blant yn bresennol yn y lleoliadau, i fyny o’r 4,000 yn y wythnos flaenorol ac i fyny o’r 3,300 dros y pythefnos cyn y gwyliau ysgol Pasg. Fel arfer, mae presenoldeb ar ddydd Gwener yn is, sydd efallai yn adlewyrchiad o batrymau gweithio gweithwyr allweddol rhan amser.
- Roedd 2,900 o staff yn bresennol, dim newid dros yr wythnos flaenorol ond i lawr o’r 3,100 y wythnos cyn y gwyliau ysgol Pasg.
- O 11 Mai ymlaen byddwn yn dechrau adrodd ar y nifer a chanran y plant agored i niwed sy'n mynychu lleoliadau.
Canran y lleoliadau ar agor yn ystod yr wythnos, 24 Mawrth i 1 Mai 2020 (MS Excel)
Yn ystod yr wythnos o 27 Ebrill i 1 Mai:
- Ar gyfartaledd roedd 35% o leoliadau ar agor, dim newid dros yr wythnos flaenorol ond i lawr o’r 39% y wythnos cyn y gwyliau ysgol Pasg.
Canran y plant a staff yn bresennol yn ystod yr wythnos, 24 Mawrth i 1 Mai 2020 (MS Excel)
Yn ystod yr wythnos o 27 Ebrill i 1 Mai:
- Llai na 1% of blant wedi mynychu lleoliad awdurdod lleol pob diwrnod ers I ni ddechrau casglu y data.
- Ar gyfartaledd, 5.7% o staff yn bresennol mewn lleoliadau awdurdod lleol yn yr wythnos hon, dim newid dros yr wythnos flaenorol ond i lawr o’r 6.1% y wythnos cyn y gwyliau ysgol Pasg.
2. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Cyd-destun
Ar ddydd Mercher 18 Mawrth 2020 cyhoeddwyd y byddai pob sefydliad addysgol yng Nghymru yn cau o ddydd Gwener 20 Mawrth 2020 fan bellaf. Yr unig eithriad yw ddarpariaeth ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed oherwydd y pandemig parhaus coronafeirws.
Mae gan Addysg a gofal plant: coronafeirws ystod eang o wybodaeth am addysg yng Nghymru ac effaith coronafeirws.
Mae'r wybodaeth hon yn helpu i fonitro'r nifer sy'n derbyn lle a’r galw am leoedd ac yn cyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled y DU.
Perthnasedd
Defnyddir yr ystadegau hyn yn ddyddiol at nifer o ddibenion:
- deall goblygiadau ar galw ac adnoddau
- cefnogi cyngor ar sail tystiolaeth ar benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adolygiadau o drefniadau cyfyngiad symud
- cyfraniadau at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled y DU, gyda ffigurau ar gyfer Cymru yn cael eu darparu bob dydd i Lywodraeth y DU
- briffio gweinidogol a chynadleddau y wasg
Cywirdeb
Cesglir data yn ddyddiol trwy ffurflen ar-lein a ddatblygir ac a gynhelir gan DataCymru. Casgliad cyfanredol yw hwn yn hytrach na bod ar lefel disgyblion unigol. Dilysir y data yn erbyn ffurflenni blaenorol a holir unrhyw newidiadau sylweddol.
Gofynnir i awdurdodau lleol gyflwyno data erbyn 3pm bob diwrnod.
Mae'r casgliad data yn cwmpasu'r holl leoliadau y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i ddarparu gofal plant yn ystod y pandemig coronafeirws. Nid oes rhaid o reidrwydd i'r lleoliadau hyn fod yn ysgolion. Gall awdurdodau lleol ddewis defnyddio cyfleusterau cymunedol eraill i ddarparu darpariaeth. Ar hyn o bryd nid yw'r data'n cynnwys unrhyw ddarpariaeth mewn ysgolion annibynnol.
Mae'r casgliad data yn cynnwys plant o unrhyw oedran.
Cyfrifir cyfraddau gan ddefnyddio data o gyfrifiad ysgolion Ionawr 2020. Sylwch fod yr enwaduron a ddefnyddir ar gyfer cyfanswm y plant yn yr ysgol a chyfanswm y staff, ond efallai y bydd plant a staff yn mynychu lleoliadau na fyddent fel arfer yn mynychu. Mae'r cyfraddau i fod i roi arwydd cyffredinol.
Amseroldeb a phrydlondeb
Mae'r data yn y datganiad hwn yn darparu data ar gyfer yr wythnos ddiwethaf a chymariaethau a’r wythnos blaenorol.
Hygyrchedd ac eglurder
Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau ac Ymchwil wefan. Mae Taenlen Dogfen Agored yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ol i'r siartiau yn y datganiad hwn.
Cymharedd
Cyhoeddwyd data ar gyfer Lloegr am y tro cyntaf ar 21 Ebrill 2020.
Nid yw’r Alban na Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi data.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, meant wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses casglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.
Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd. Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, ar ran Awdurdod Ystadegau'r DU, wedi eu hadolygu yn erbyn sawl agwedd allweddol o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac yn eu hystyried yn gyson â phileri'r Cod o Ddibynadwyedd, Ansawdd a Gwerth.
Llythyr gan y Cyfarwyddwr Rheoleiddio Cyffredinol yn cymeradwyo cyhoeddi’r ystadegau yma i'w gael ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
Ar hyn o bryd, datganiad ystadegol wythnosol yw hwn. Bydd yn cael ei gyhoeddi ganol dydd bob dydd Llun. Byddwn yn adolygu'r amlder yn unol ag newidiadau mewn anghenion defnyddwyr.
Bydd y datganiad nesaf ddydd Llun 11 Mai.
Hoffem gael eich adborth
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.
3. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Stephen Hughes
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 38/2020