Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans y bydd £248,000 ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol ledled Cymru i helpu i gryfhau eu seibergadernid mewn ymateb i’r argyfwng coronafeirws.
I helpu i gynnal seiberddiogelwch o’r radd flaenaf yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi dwyn ymlaen ei chynlluniau cyllid seiber i gefnogi ein hawdurdodau lleol.
Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael grant cychwynnol o £9,000 i helpu i ddiwallu eu hanghenion pennaf, a bydd cyfle iddynt ymgeisio am arian ychwanegol o gronfa wrth gefn ac ynddi £50,000.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
Mae seiberddiogelwch yn hanfodol bwysig wrth inni i gyd wneud yn fawr o wasanaethau digidol yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn anffodus, mae yna bobl a fydd yn ceisio manteisio ar yr argyfwng hwn.
Bydd y cyllid yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu i ddarparu sicrwydd ychwanegol o fewn systemau TG awdurdodau lleol mewn ymateb i’r cynnydd mewn seiberdroseddau yn ystod yr argyfwng COVID-19. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o welliannau y byddwn yn eu gwneud i helpu i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn genedl seiberddiogel.