Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu taliad ychwanegol o £500 i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gan siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod y taliad hwn yn gydnabyddiaeth bellach o’r gweithlu gofal cymdeithasol sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu, a ddim yn cael digon o werthfawrogiad.
Bydd y taliad ar gael i tua 64,600 o weithwyr cartrefi gofal a gweithwyr gofal yn y cartref sy’n darparu gofal personol ar draws Cymru.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru roi £40m o gyllid ychwanegol i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion i helpu i dalu’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ymateb i’r pandemig coronafeirws.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Mae degau o filoedd o bobl yn gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac maent yn ymrwymo i wneud hynny mewn amgylchiadau heriol iawn yn aml.
Maent yn gwneud tasgau sy’n gofyn am lefelau uchel o ofal personol, sy’n aml yn arwain at risg a chyfrifoldeb mawr iddyn nhw eu hunain. Mae llawer o’n gweithwyr gofal cymdeithasol yn ceisio cydbwyso eu cyfrifoldebau gofalu personol eu hunain gyda’u cyfrifoldebau proffesiynol.
Rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod ein gweithlu gofal cymdeithasol yn gwybod ein bod ni’n gwerthfawrogi ac yn cydnabod eu gwaith caled. Diben y taliad hwn yw rhoi cydnabyddiaeth bellach o’n gwerthfawrogiad am bopeth y maent yn ei wneud - mae’n cydnabod y grŵp hwn o bobl sy’n strwythur anweledig yn cynnal ein gwasanaethau, gan gefnogi ein GIG a’r gymdeithas ehangach.
Bydd manylion pellach am y taliad ychwanegol hwn yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol sy’n comisiynu’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, a gydag undebau llafur a Fforwm Gofalwyr Cymru, i gwblhau’r trefniadau.
Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar Lywodraeth y DU i beidio â threthu’r taliad ychwanegol hwn, gan alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i gadw’r swm cyfan. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i wneud yn siŵr nad yw’n effeithio ar hawliau pobl i gael budd-daliadau.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i wneud eithriad i’r rheol yn yr amgylchiadau eithriadol hyn.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dilyn y cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Vaughan Gething ddydd Mawrth ynglŷn â’r taliad marwolaeth mewn gwasanaeth i deuluoedd staff y GIG a gofal cymdeithasol.
Bydd y cynllun hwn yn cynnig swm unigol o £60,000 i deuluoedd cymwys, a bydd yn berthnasol i’r rheiny a oedd yn gweithio mewn swyddi rheng flaen a lleoliadau lle darperir gofal personol i unigolion a all fod yn dioddef o’r coronafeirws.