Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae’n flwyddyn ers imi gyhoeddi’r adroddiad a wnaed ar y cyd gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, yn sgil eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth wedi bod yn monitro a chefnogi’r bwrdd iechyd drwy herio a chraffu fel y bo angen i sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud mewn modd agored a thryloyw.
Er gwaethaf y cyfnod digynsail yr ydym yn mynd drwyddo ar hyn o bryd, roeddwn yn awyddus i sicrhau’r menywod a’r teuluoedd, y mae adolygiad y Colegau Brenhinol yn effeithio arnynt, nad ydynt wedi cael eu hanghofio. Er y bu’n rhaid i’r Panel addasu ei arferion gweithio oherwydd yr argyfwng COVID-19, mae ei waith yn parhau. Wrth i’r gwaith adolygu clinigol symud yn ei flaen, bydd yr hyn a ddysgir o’r gwaith hwnnw’n dylanwadu ar sut y darperir gofal mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi Adroddiad Cynnydd Chwarterol y Gwanwyn sydd wedi ei baratoi gan y Panel. Dyma’r trydydd diweddariad ganddo, ac mae’r adroddiad hwn yn cynnwys tystiolaeth bellach o’r gwaith gwella parhaus sy’n digwydd o fewn y bwrdd iechyd. Ceir sicrwydd o glywed bod y Panel wedi asesu rhagor o welliannau cynyddrannol sydd wedi eu cyflawni yn ystod y tri mis diwethaf, a’i fod yn credu bod y bwrdd iechyd nawr ar ei ffordd i gyflawni yn erbyn pob un o argymhellion y Colegau Brenhinol.
Rhaid canmol y bwrdd iechyd a’r Panel am y ffaith bod sylw wedi cael ei roi i ychydig dros hanner yr argymhellion, a bod yr argymhellion hyn yn cael eu hymgorffori mewn arferion gweithredol. Ers dechrau’r broses hon, rwyf wedi pwysleisio ei fod yn hanfodol bod yn drylwyr wrth gyflawni’r gwaith, yn hytrach na’i wneud ar frys, er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau’n gynaliadwy.
Mae’r Panel wedi nodi ei ddisgwyliadau ar gyfer y meysydd y mae angen rhoi sylw penodol iddynt yn ystod y misoedd nesaf. Maent yn cynnwys datblygu ymhellach y Cynllun Gwella Mamolaeth a’r Fframwaith Integredig ar gyfer Asesu Perfformiad a Sicrwydd, gan roi mwy o ffocws ar wasanaethau newyddenedigol. Mae’n hanfodol nad yw’r bwrdd iechyd yn colli golwg ar y meysydd hyn yn ystod y misoedd nesaf, er fy mod yn deall yn iawn y bydd unrhyw gynnydd yn arafach o dan yr amgylchiadau presennol.
O ran y gwaith adolygu clinigol, mae’n dda clywed bod chwe thîm clinigol annibynnol bellach wrthi’n cynnal adolygiadau, a bod y broses sicrwydd ansawdd wedi ei sefydlu. Fel yr eglurais yn fy natganiad diwethaf, bydd cam cyntaf yr adolygiadau clinigol yn canolbwyntio ar yr ofal a ddarparwyd i famau a babanod rhwng 1 Ionawr 2016 a 30 Medi 2018. Mae Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg yn parhau i ddarparu cymorth eirioli i’r menywod a’r teuluoedd y mae’r gofal a roddwyd iddynt yn cael ei adolygu, a hoffwn ddiolch i’r menywod a’r teuluoedd hynny sydd eisoes wedi rhannu eu profiadau. Mae’n hanfodol bod eu lleisiau’n parhau’r ganolog i’r adolygiadau clinigol a’r gwaith gwella ehangach.
Rwy’n deall bod y Panel wedi diweddaru ei Strategaeth ar gyfer Adolygiadau Clinigol er mwyn ystyried yr hyn a ddysgwyd o’r rhaglen hyd yn hyn, gan gynnwys o adborth a chasgliadau’r ymarfer peilot a gwblhawyd ddechrau’r flwyddyn hon. Rwy’n edrych ymlaen at gael rhagor o ddiweddariadau am y gwaith hwn maes o law.
Oherwydd y cynnydd sy’n cael ei wneud o fewn y gwasanaethau mamolaeth, mae’r Panel wedi cynnig y dylid ymestyn y cylch adrodd i chwe mis. Rwyf wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a gallaf gadarnhau y byddaf yn cyhoeddi ei adroddiad nesaf ddiwedd Medi 2020. Wrth gwrs, byddaf yn sicrhau bod Gweinidogion yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf fel y bo angen os bydd unrhyw beth pellach, y dylid rhoi gwybod amdano, yn codi cyn hynny.
Mae’n bwysig nodi bod yr hyn a ddysgwyd o’r gwasanaethau mamolaeth hefyd yn cael ei ddefnyddio fel sail i’r gwelliannau sefydliadol ehangach y mae angen eu cyflawni yn dilyn uwchgyfeirio’r sefydliad i lefel ymyriad wedi’i dargedu. Roeddem wedi gwneud penderfyniad blaenorol bod yn rhaid gwella mewn tri maes allweddol: ansawdd a llywodraethu; arweinyddiaeth a diwylliant; ac ail-adeiladu ymddiriedaeth a hyder. Mae hynny’n gydnaws â’r argymhellion a wnaed gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn sgil eu hadolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd y bwrdd iechyd. Fel gyda’r gwasanaethau mamolaeth, cytunwyd ar ddull gweithredu’n seiliedig ar fatrics aeddfedrwydd i dracio gwelliannau a darparu tystiolaeth ohonynt. Roedd nifer o gamau eisoes yn cael eu cymryd, gan gynnwys cyflwyno fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau newydd a model gweithredu newydd. Er gwaethaf y cynnydd cynnar a wnaed mewn llawer o feysydd, yn amlwg mae wedi bod yn hanfodol i’r bwrdd iechyd ganolbwyntio ei ymdrechion ar ymdopi ag effeithiau’r pandemig COVID-19 yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, er y gallai hynny arafu ychydig ar y gwaith o weithredu’r newidiadau, rwy’n hyderus bod y Bwrdd wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau ei fod yn sefydliad sy’n cael ei yrru gan yr angen i sicrhau ansawdd. Dyma’r unig ganlyniad a fyddai’n dderbyniol i mi.