Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF), sy’n cael ei chefnogi gan TUC Cymru, yn cynnig ffordd i’r undebau llafur fedru cynnig atebion o ran meithrin sgiliau gweithwyr a rhoi cymorth iddynt yn ystod argyfwng y Coronafeirws (Covid-19).
A ninnau mewn sefyllfa na welwyd ei thebyg o’r blaen oherwydd Covid-19, bydd TUC Cymru yn gweithio gyda’r undebau llafur i nodi lle mae prinder swyddi mewn sectorau allweddol ac i gynnig atebion tymor byr ar ffurf hyfforddiant er mwyn mynd i’r afael â phrinder sgiliau.
Bydd y gwaith hwn yn dechrau ar unwaith a bydd yn cynnwys:
- Cynnig cyfleoedd dysgu a chymwysterau perthnasol fel y bo modd adleoli gweithwyr i swyddi allweddol a llenwi bylchau mewn sectorau allweddol, a’u helpu hefyd i wirfoddoli os yw hynny’n briodol
- Rhoi cyngor ac arweiniad i unigolion er mwyn ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu i’r holl weithwyr y mae’r argyfwng yn effeithio arnynt
- Rhoi cyfleoedd i weithwyr sy’n hunanynysu feithrin sgiliau ac ennill cymwysterau tra byddant gartref
Y bwriad, wrth gynnig cymorth, fydd canolbwyntio ar weithwyr sy’n eu cael eu hunain yn ddi-waith, sy’n cael eu hadleoli i wneud gwaith gwahanol, a gweithwyr sydd wedi gweld newidiadau i’w contractau cyflogaeth, er enghraifft, gweithwyr sydd ar ffyrlo.
Er na fydd modd cynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb am gyfnod, bydd mwy o gyfleoedd ar gael i ddysgu ac i ennill cymwysterau ar-lein a bydd cyngor a gwybodaeth ar gael drwy weminarau a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae TUC Cymru a’r undebau llafur yn cydweithio’n agos eisoes drwy raglenni fel ReAct, sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Mae ganddo berthynas waith gydag asiantaethau cymorth pwysig megis Cymru’n Gweithio a Gyrfa Cymru, gan gydweithio â nhw.
Mae 48 o undebau’n aelodau o TUC Cymru, ac mae’n cynrychioli ychydig dros 400,000 o weithwyr. Hi yw llais y gweithwyr yng Nghymru. Mae’n gyfnod anodd arnom ac rwy’n hyderus y bydd TUC Cymru a’r undebau llafur yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gweithwyr sydd ag anghenion newydd o ran sgiliau a chyflogadwyedd, ac y bydd yn rhoi help llaw inni ymdopi yn ystod y cyfnod hwn, sy’n un na welwyd ei debyg o’r blaen.
Mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol ar adegau o ansicrwydd economaidd ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i’r rheini sydd yn yr angen mwyaf. Rwy’n gefnogol iawn i’r camau y mae TUC Cymru a’r undebau llafur wedi’u cymryd.
Cyfeiriadau at wefannau:
TUC Cymru
Wales Union Learning Fund: How to get WULF training during coronavirus
UNISON: Cymru Wales to deliver free online Covid-19 training across Wales