Mae hanner biliwn o bunnoedd o grantiau wedi cyrraedd 41,000 o fusnesau bach yng Nghymru ymhen ychydig wythnosau.
Diolchodd Rebecca Evans, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i’r awdurdodau lleol ledled Cymru heddiw am eu gwaith caled yn prosesu’r taliadau grant yn gyflym, gan sicrhau bod busnesau bach yn derbyn y cymorth ar frys i helpu i ddelio gydag effaith y coronafeirws (COVID-19).
Mae’r ymdrech sylweddol hon wedi gweld dros £508 miliwn yn mynd o’r llywodraeth i fusnesau yn ystod y mis diwethaf
Mae busnesau manwerthu, hamddena a lletygarwch yng Nghymru sydd mewn lleoliadau â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 wedi derbyn grant o £25,000.
Ac mae grant o £10,000 wedi ei dalu i gwmnïau sy’n gymwys am gymorth rhyddhad ardrethi busnesau bach, ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Bydd pob busnes cymwys hefyd yn elwa o wyliau blwyddyn o’u hardrethi.
Mae’r gwaith o brosesu’r ceisiadau sy’n weddill yn parhau, ac mae mwy o gwmnïau yn derbyn grantiau coronafeirws brys bob diwrnod.
Mae’r pecyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd, yn fwy na’r hyn sydd ar gael i fusnesau yn Lloegr.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
Mae’n dystiolaeth o waith caled Llywodraeth Cymru ac ymdrechion anhygoel awdurdodau lleol bod gwerth hanner biliwn o bunnoedd o grantiau hanfodol wedi’u dosbarthu i fusnesau yng Nghymru mewn cyfnod mor fyr.
Bydd y cyllid hwn yn hollbwysig i helpu cwmnïau yng Nghymru ddelio gydag effaith y pandemig.
Rydym hefyd wedi cydnabod bod angen i gwmnïau ddod o hyd i gymorth ariannol yn gyflym, a dyna pam, drwy gydweithio gydag awdurdodau lleol, ein bod wedi gwneud pob ymdrech bosibl i gael yr arian hwn i gyfrifon banc busnesau ledled Cymru cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod y ceisiadau sy’n weddill yn cael eu prosesu.
Rydym wedi gweithredu’n gyflym i gefnogi ein cymuned fusnes, ac er ein bod wedi gwneud llawer i gefnogi cwmnïau ledled Cymru, rydym am i Lywodraeth y DU fynd ymhellach a darparu’r cymorth ariannol ychwanegol y mae cwmnïau o Gymru ei angen i warchod swyddi, mynd trwy’r argyfwng hwn ac adfer y lefelau twf cyn y coronafeirws.
Meddai’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn o fewn yr adnoddau sydd gennym i warchod ein heconomi.
Mae yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu o ran cymorth busnes yn 2.7% o’n Cynnyrch Domestig Gros – ac mae hyn yn ymrwymiad na welwyd mo’i debyg, ac yn dangos yn glir ein bod yn sefyll i fyny dros fusnesau ym mhob rhan o Gymru.
Mae’r £500 miliwn sy’n cael ei rannu gyda miloedd o fusnesau yn rhannol oherwydd gwaith caled yr awdurdodau lleol. Bydd y cyllid hwn yn hanfodol i helpu busnesau drwy’r wythnosau a’r misoedd heriol iawn sydd o’n blaenau.
Meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Anthony Hunt:
Mae’r swm enfawr o arian sydd wedi’i ddosbarthu hyd yma nid yn unig yn dangos yr angen gwirioneddol am y cymorth hwn, ond mae hefyd yn dystiolaeth o ymroddiad staff y cyngor. Maent wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn siwr fod unrhyw un sydd â hawl i’r cymorth hwn yn ei gael ar fyrder. Dwi’n ddiolchgar i bob un ohonyn nhw am weithio mor galed i awdurdodi taliadau a sicrhau bod cwmnïau cymwys yn gallu elwa.
Mae hwn nid yn unig yn argyfwng iechyd, ond yn argyfwng economaidd hefyd. Pan fydd y cyfnod hwn y tu ôl inni, rydym am wneud yn siŵr bod ein heconomïau lleol cyn gryfed ag y gallant fod mewn amgylchiadau heriol iawn. Bydd llywodraeth leol yn parhau i gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yn ystod yr amser cythryblus hwn.
Meddai Kate Thomas, Cadeirydd Siambr Fasnach y Bontfaen:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am weithredu’n gyflym i ryddhau grantiau i fusnesau a dileu y baich ardrethi.
“Mae hynny, wedi’i gyfuno â chymorth ariannol i helpu i dalu am salwch hunan-ynysu staff a staff ffyrlo wedi bod yn achubiaeth i nifer o fusnesau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cymorth hwn yn parhau, i wneud yn siŵr bod cynifer o fusnesau â phosibl yn goroesi’r argyfwng hwn.”
Meddai Neil Gompertz o GPZ Automotive yn Sir y Fflint:
Hoffwn ddweud diolch yn fawr am gymaint o garedigrwydd a chymorth. Does gennych ddim syniad faint o ryddhad oedd hyn imi, roedd cymaint o ofn gen i y byddwn yn colli fy musnes wedi 27 mlynedd. Dwi’n hynod ddiolchgar, ac yn gwerthfawrogi popeth sy’n cael ei wneud i helpu i gadw busnesau bach i fynd drwy’r cyfnod hynod drist hwn.