Daeth yr ymgynghoriad i ben 12 Ionawr 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 352 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn am y diwygiadau i reoliadau 2003 a fyddai’n newid arferion cyllid cyfalaf a chyfrifyddu awdurdodau lleol yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau am ddefnyddio derbynebau cyfalaf a beth i’w ystyried fel gwariant cyfalaf. Maent hefyd yn addasu sut y caiff rhai safonau cyfrifyddu ariannol eu cymhwyso fel nad ydynt yn cael effaith andwyol ar adnoddau refeniw awdurdodau.
Rydym yn ymgynghori ar y diwygiadau arfaethedig. Byddai’r rhain yn gwneud y canlynol:
- Llacio’r cyfyngiadau presennol a rhoi awdurdodau lleol Cymru yn yr un safle ag awdurdodau Lloegr o ran trafodiadau benthyciadau cyfalaf, trafodiadau cyfranddaliad penodol cyfalaf a bondiau
- Cyflwyno rheoliad newydd er mwyn sicrhau bod diogeleiddio yn gyfartal â benthyca a ffurfiau eraill o gredyd
- Estyn gallu awdurdodau lleol i beidio â chodi am ôl-daliadau ar gyfer hawliadau tâl cyfartal o’u refeniw nes mae’r taliadau’n ddyledus hyd at fis Ebrill 2020
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn am yr effaith a gaiff y bwriad i gymhwyso Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol 16 ar awdurdodau lleol yng Nghymru o fis Ionawr 2019 ymlaen.