Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau heddiw (27 o Ebrill 2020) y bydd cymorth ariannol o £60,000 yn cael ei ddarparu i fuddiolwyr cymwys staff rheng-flaen sy'n gweithio yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol, os byddant yn marw mewn gwasanaeth o ganlyniad i Covid-19.
Bydd y cynllun yn gweld buddiolwyr cymwys yn derbyn swm un-tro o £60,000 a bydd yn berthnasol yn arbennig i'r rhai sy'n gweithio mewn swyddi rheng-flaen a lleoliadau lle darperir gofal personol i unigolion a allai fod wedi dal Covid-19.
Mae'r cynllun yn anghyfrannol ac nid oes unrhyw gostau ychwanegol i gyflogwyr. Bydd y taliad yn cael ei wneud yn ychwanegol at unrhyw fuddion presennol sydd eisoes wedi'u hennill drwy aelodaeth bresennol y cynllun pensiwn.
Byddai'r cynllun yn gyfyngedig o ran amser, gan ddarparu gwasanaeth dros gyfnod y pandemig Covid-19 a bydd yn ôl-weithredol o’r 25ain o Fawrth 2020.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae ein gweithwyr rheng-flaen yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i ddarparu gofal a gwasanaethau i gleifion, ac i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ledled Cymru. Mae eu dewrder ar reng flaen y pandemig hwn yn rhywbeth y mae'r genedl gyfan yn ddiolchgar ac yn falch ohono.
"Bydd cyflwyno'r cynllun hwn gobeithio yn rhoi tawelwch meddwl y bydd eu teulu a'u hanwyliaid yn cael cefnogaeth petai'r gwaethaf yn digwydd."