Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Ionawr 2016.
Manylion am y canlyniad
Ymateb Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 476 KB
Dadansoddiad o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 870 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ynglŷn â’r cynigion ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i fesur y cynnydd y mae Cymru’n ei wneud tuag at gyrraedd y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.
Diben yr ymgynghoriad hwn oedd casglu eich barn ynglŷn â set o ddangosyddion llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru sydd wedi’u bwriadu i fesur cynnydd tuag at greu Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru iachach, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Rydym am sicrhau bod pobl a chymunedau ledled Cymru’n gallu cyfrannu eu barn ynglŷn â’r set newydd arfaethedig o ddangosyddion llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru amae’r ddogfen hon felly’n nodi ein cynigion drafft i bennu 40 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru,
I ddeall mwy am y Ddeddf gweler y Daflen ar yr Hanfodion a ffilm animeiddiedig sy’n egluro’r Ddeddf.