Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi ymateb heddiw i’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am gymorth ar gyfer gwasanaethau a llwybrau hwylio fferïau nad yw’n cynnwys y llwybr hwylio hanfodol rhwng Dulyn a Chaergybi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd:

Ar draws y DU, mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio’n drwm ar fferïau ac ar y porthladdoedd sy’n hwyluso’u gwaith, a ’dyw Caergybi ddim yn eithriad. 

Mae’r llwybr fferïau rhwng Caergybi a Dulyn yn ddolen allweddol, gan gludo nwyddau hollbwysig, fel bwyd a chyflenwadau ocsigen i’r GIG, ar gyfer tir mawr y DU, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.  Fel y porthladd fferïau prysuraf ond un yn y DU mae’n chwarae rhan hanfodol yn economi Gogledd Cymru a thu hwnt.

O ystyried ei bwysigrwydd, ac yn arbennig ar hyn o bryd, mae’n hurt aros hyd nes nad yw llwybr yn fasnachol hyfyw cyn cymryd camau.

Mae’r ffaith nad yw Porthladd Caergybi wedi cael ei gynnwys yng nghyhoeddiad Llywodraeth y DU yn annerbyniol, yn anesboniadwy ac yn anghyfrifol.    

Dw i a’r gweinidogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi bod yn pwysleisio ers wythnosau pa mor hanfodol yw hi fod Llywodraeth y DU yn cydnabod y llwybr hwylio hwn a’i bod yn gweithredu i ddiogelu’r cadwyni cyflenwi hollbwysig sydd mor hanfodol os ydym i ddod drwy’r argyfwng hwn. Gwn fod Cyngor Ynys Môn wedi cysylltu â Llywodraeth y DU am y mater hwn hefyd.

Dw i wedi ysgrifennu unwaith eto heddiw at Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Grant Shapps, i bledio achos Caergybi. Mae angen inni weithredu ’nawr a gwneud hynny’n gyflym.

Mae’r llwybr hwylio hwn yn un hanfodol o bwysigrwydd strategol sy’n allweddol i economi’r Gogledd. Dw i’n galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei phenderfyniad ac i weithredu ar fyrder i gynnwys Caergybi yn eu cynlluniau.