Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Awst 2017.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 720 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem wybod beth yw eich barn am ganllawiau i erlynwyr ar yr egwyddorion i'w dilyn wrth wneud penderfyniadau am erlyniadau gan Lywodraeth Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ar hyn o bryd, penderfynir a ddylid cychwyn erlyniad gan Lywodraeth Cymru, neu beidio â pharhau ag erlyniad, yn unol â Chod Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer Erlynwyr y Goron (Cod CPS).
Rydym yn ymgynghori ar God Erlyn arfaethedig Llywodraeth Cymru, sy'n seiliedig ar god presennol CPS. Fodd bynnag, mae'r cod yn rhoi ystyriaeth benodol i swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru.