Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau gweithredol ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant yn ystod COVID-19 gan gynnwys:

  • awdurdodau lleol
  • darparwyr cartrefi gofal i blant
  • gwasanaethau mabwysiadu
  • gwasanaethau maethu

Cefndir

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cyflwyno heriau digynsail i deuluoedd agored i niwed ac yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau plant.

Mae'r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar ddarparu cymorth parhaus i blant agored i niwed, plant sy'n wynebu risg a phlant sydd wedi bod mewn gofal neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd, yn ystod y cyfnod hwn. Rhannwch y ddogfen hon â'ch timau a gallwch fod yn sicr ein bod yn gweithio'n galed i barhau i ddarparu canllawiau a fydd yn eich cynorthwyo wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Ystyr 'plentyn' a 'plant' yn y canllawiau hyn yw plant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Gall y term 'y rhai sy'n gadael gofal' fod yn berthnasol i rai pobl ifanc hyd at 25 oed.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar COVID-19 ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar feysydd fel gweithwyr hanfodol, profi am y coronafeirws a'r defnydd priodol o Gyfarpar Diogelu Personol.

Rydym yn cydnabod y bydd teuluoedd yn wynebu pwysau emosiynol, ariannol a seicolegol ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn. Er mwyn sicrhau diogelwch a llesiant eich staff a'r plant a'r teuluoedd rydych yn eu cefnogi, mae'n hollbwysig eich bod yn darparu gwasanaethau mewn ffordd sy'n gyson â chyngor gwyddonol arbenigol Llywodraeth Cymru. Cofiwch y gall y cyngor gwyddonol newid, gan newid y canllawiau yn sgil hynny.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r canllawiau hyn i PlantSynDerbynGofal@llyw.cymru

Y gynulleidfa fwriadedig

Dylai'r canllawiau hyn gael eu defnyddio gan bawb sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • hybu llesiant plant agored i niwed, gan gynnwys y rhai hynny sydd â chynllun gofal a chymorth eisoes
  • diogelu plant sy'n wynebu risg, gan gynnwys y rhai hynny sydd â chynllun gofal, cymorth ac amddiffyn eisoes
  • asesu a chynllunio gofal a chymorth ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd
  • gwneud ac adolygu penderfyniadau ar leoli plant sy'n derbyn gofal, y rhai sy'n gadael gofal a phlant sydd wedi'u mabwysiadu

Dylai'r canllawiau hyn gael eu cymhwyso fesul achos, gan sicrhau bod y canlyniad gorau i blant wrth wraidd y broses o gynllunio a gwneud penderfyniadau. Mae cofnodi penderfyniadau a dangos pam a sut y cawsant eu gwneud yn parhau i fod yn gyfrifoldeb allweddol wrth gymhwyso'r canllawiau hyn.

Nod y canllawiau hyn yw:

  • annog dull hyblyg a phragmataidd o gynnal cymorth i blant sy'n derbyn gofal a phlant agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws newydd
  • cydnabod y meysydd o ddarpariaeth lle y bydd awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd bodloni eu gofynion statudol, a rhoi canllawiau ar y mesurau y dylid eu rhoi ar waith yn unol ag ysbryd y gyfraith
  • cyn belled ag y bo modd, lleihau effaith y coronafeirws newydd ar Wasanaethau Plant a phartneriaid i'r eithaf pan fydd llai o adnoddau i ymdopi â phwysau ychwanegol
  • hyrwyddo gwaith partneriaeth ar draws yr amrywiaeth o wasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd

Mesur dros dro yw'r canllawiau hyn mewn ymateb i'r amgylchiadau digynsail rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Daw'r canllawiau i rym ar unwaith (17 Ebrill 2020) a byddant yn parhau ar waith nes clywir yn wahanol.

Egwyddorion

Mae gan awdurdodau lleol a'u partneriaid diogelu perthnasol ddyletswyddau penodol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y Codau Ymarfer a'r canllawiau statudol sy'n gysylltiedig â diogelu a hybu llesiant plant.  

Wrth gymhwyso'r canllawiau hyn, dylai awdurdodau lleol a'u partneriaid barhau i weithio mewn ffordd arloesol i gyflawni eu dyletswyddau statudol.

Wrth wneud penderfyniadau ar y ffordd o weithredu gwasanaethau, neu ar blant unigol, dylai'r egwyddorion canlynol lywio gwaith pawb.

i. Hybu llesiant a diogelu:

  • mae'n ofynnol i bob ymarferydd a sefydliad chwarae ei ran i ddiogelu plant a helpu i hybu eu llesiant
  • caiff gwybodaeth ei rhannu'n unol â'r canllawiau ar rannu gwybodaeth er mwyn diogelu plant
  • parhau i weithio'n rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol er mwyn meithrin dealltwriaeth well o'r plentyn a'i anghenion o ran gofal, cymorth ac amddiffyn. Mae hyn yn cynnwys deall yr effaith y gall y trefniadau mewn perthynas â COVID-19 ei chael ar newid yr anghenion hyn
  • cydberthynas waith gydgynhyrchiol â phlant, y rhai sy'n gadael gofal, eu teuluoedd a'u gofalwyr er mwyn deall yr hyn sy'n bwysig iddynt a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae hyn yn cynnwys egluro i blant a'u teuluoedd yr effaith y gall y trefniadau mewn perthynas â COVID-19 ei chael ar eu gofal a'u cymorth

ii. Dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn:

  • mae hawliau a llesiant y plentyn a'i fudd pennaf yn parhau'n hollbwysig
  • cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wrth ystyried effaith y trefniadau mewn perthynas â COVID-19, bydd ymarferwyr yn parhau i geisio clywed barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn, a'u hystyried, a darparu cymorth priodol i alluogi'r plentyn i gyfrannu at y penderfyniadau a wneir amdano
  • dylid ystyried nodweddion, diwylliant a chredoau'r plentyn a'i deulu.

Mae'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Statudol (NASA) yn pennu dull safonol o ddarparu gwasanaethau eirioli statudol yng Nghymru. Mae'r NASA yn cynnwys cynnig gweithredol o eiriolaeth, ac mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael cynnig gweithredol o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol statudol pan fyddant yn dechrau derbyn gofal neu'n dod yn destun ymchwiliadau amddiffyn plant sy'n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol.

Mae darparwyr gwasanaethau yn parhau i gynnig pob ymyriad eirioli ar gyfer y cynnig gweithredol ac eiriolaeth sy'n seiliedig ar faterion, gan ddefnyddio technoleg i hwyluso cymorth o bell. Mae Llywodraeth Cymru yn cael diweddariadau rheolaidd gan ddarparwyr er mwyn monitro effaith COVID-19 ar y cynnig gweithredol.

Sut y dylai awdurdodau lleol flaenoriaethu gweithgarwch yn ystod yr argyfwng?

Mae COVID-19 yn gosod pwysau newydd ac ychwanegol ar blant, y rhai sy'n gadael gofal, teuluoedd a gofalwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod y mwyafrif o Wasanaethau Cymdeithasol Plant wedi asesu risg yr achosion sydd eisoes ar y gweill a'u bod yn eu hadolygu'n rheolaidd. Disgwylir y bydd pob awdurdod lleol yn mabwysiadu'r dull gweithredu hwn, gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau i rannu gwybodaeth, osgoi dyblygu a sicrhau dealltwriaeth a rennir o anghenion mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc sy'n gadael gofal.

Bydd y dull gweithredu hwn hefyd yn bwysig wrth wneud penderfyniadau am achosion newydd sy'n cynnwys plant sydd ag anghenion o ran gofal, cymorth ac amddiffyn o ganlyniad i bwysau ychwanegol COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol y bydd newidiadau mewn gwasanaethau cyffredinol ac ataliol o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol yn rhoi pwysau ychwanegol ar Wasanaethau Cymdeithasol Plant mewn perthynas â chefnogi plant agored i niwed, plant sy'n wynebu risg a'r rhai sy'n gadael gofal.

Felly, dylai awdurdodau lleol weithio gydag asiantaethau partner i fonitro ac adolygu effaith y newidiadau hyn a gwneud penderfyniadau ar y cyd ar y ffordd orau o ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau posibl. Bydd y penderfyniadau a wneir mewn un asiantaeth yn effeithio ar drefniadau asiantaethau eraill ac mae'r achos dros weithio'n rhyngasiantaethol yn gryfach nag erioed er mwyn osgoi dyblygu a chau'r bylchau. Mae cofnodi penderfyniadau a dangos pam a sut y cawsant eu gwneud yn parhau i fod yn gyfrifoldeb allweddol i awdurdodau lleol.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys plant a phobl ifanc agored i niwed yn y ddarpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant cofrestredig fel mesur i ddiogelu ac amddiffyn y plant mwyaf agored i niwed a'u teuluoedd. Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r ddarpariaeth hon fel mesur, o fewn y cynlluniau gofal a chymorth os oes angen, i'r rheini sydd ei hangen yn ystod yr argyfwng hwn. Gall hyn alluogi plant i gael amser i ffwrdd o'u lleoliad neu eu cartref, a allai fod yn fesur ataliol pwysig.

Cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol plant

Cofrestru gweithwyr cymdeithasol

Yn ystod yr argyfwng presennol, mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod cynifer o ymarferwyr â phosibl ar y rheng flaen er mwyn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau’r coronafeirws. Dyna pam rydym yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn trefnu i weithwyr cymdeithasol a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol gael eu hailgofrestru dros dro.

Mae rhagor o fanylion am y trefniadau hyn ar y wefan Gofal Cymdeithasol Cymru

Cyfarpar diogelu personol

Rydym yn cydnabod bod awydd am ganllawiau clir a diamwys ar y defnydd o gyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol plant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio'r canllawiau canlynol i'w defnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal, sy'n berthnasol i ofal cymdeithasol plant.

Mae dolen gyflym i'r canllawiau COVID-19: infection prevention and control (IPC) (gan gynnwys tabl 4) i'w gweld ar wefan GOV.UK.

Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r cyfarpar y dylid ei ddefnyddio ym mhob lleoliad lle bydd rhyngweithio â rhywun (p'un a yw'n symptomatig ai peidio) a lle ceir cyswllt o fewn dau fetr. Maent hefyd yn ymdrin â'r defnydd o fasgiau a gogls os bydd risg o amlygiad i ffactorau fel trosglwyddiad hylif, er enghraifft.

Rhoddir cyngor ymarferol ar gynnal cyswllt â phlant a theuluoedd mewn sefyllfaoedd gwahanol yn yr adran nesaf, gan gynnwys mewn amgylchiadau lle bydd cyswllt wyneb yn wyneb.

Profi am COVID-19

Mae profi gweithwyr allweddol yn bwysig iawn ac mae dechrau cynnal profion ar y gweithlu gofal cymdeithasol wedi'i glustnodi'n flaenoriaeth. Mae Canolfannau Samplu'r Boblogaeth wedi agor yng Nghaerdydd a byddant hefyd ar gael yng Nghasnewydd ac yn y gorllewin a'r gogledd. Ar hyn o bryd gall awdurdodau lleol atgyfeirio 15 o bobl i gael eu profi, a byddant yn penderfynu sut i flaenoriaethu profion ar gyfer eu gweithlu eu hunain.  Rydym yn profi gweithwyr gofal cymdeithasol mewn lleoliadau gofal preswyl a gofal cartref sydd â symptomau er mwyn eu galluogi i ddychwelyd i'r gwaith cyn y cyfnod hunanynysu o saith diwrnod neu'r cyfnod cwarantin i gartrefi o 14 diwrnod.  Dylai gweithwyr sydd â symptomau barhau i ddilyn y canllawiau ar hunanynysu nes y cânt eu cynghori fel arall. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar reoli COVID-19 mewn lleoliadau gofal. Wrth i'r gallu i brofi gynyddu, mae Llywodraeth Cymru yn ehangu ei chyfleusterau profi er mwyn cynnwys mwy o brofion cynhwysfawr i'r sector. Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru'n unol â hynny.

 

Canllawiau ar gynnal cyswllt

Mae “Rules on Staying at Home and Away from Others” (y “Stay at Home Rules”), a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 23 Mawrth, yn pennu'n glir na ddylai neb, gan gynnwys plentyn, adael ei gartref heblaw am resymau yn cynnwys siopa am hanfodion, gwneud ymarfer corff dyddiol, angen meddygol neu deithio i swydd hanfodol a mynychu'r ysgol, i'r rhai sy'n parhau i fynychu. Daeth rheolau newydd i ddiogelu gweithwyr yn ystod pandemig y coronafeirws hefyd i rym ar 7 Ebrill, gan orfodi'r rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr.

Mae hyn yn golygu na chaiff trefniadau cyswllt wyneb yn wyneb â phlant eu cynghori mwyach, ac y dylid gwneud trefniadau cyswllt amgen diogel. Yn y mwyafrif o achosion, mae hyn yn golygu y dylid atal cyswllt wyneb yn wyneb rhwng gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylid lleihau amlder y cyswllt â phlant, y rhai sy'n gadael gofal, teuluoedd na gofalwyr oni fydd rheswm dros wneud hynny ar sail gwybodaeth am anghenion gofal a chymorth y plentyn.

Fodd bynnag, mae sicrhau bod plant sy'n wynebu risg yn cael eu diogelu ac yn parhau i gael eu hamddiffyn yn hanfodol bwysig. Bydd angen i awdurdodau lleol a gweithwyr cymdeithasol wneud penderfyniadau proffesiynol, hyddysg ynglŷn ag ymweld â phlant sy'n wynebu risg, gan gydbwyso'r risgiau i blant, y rhai sy'n gadael gofal, teuluoedd a gofalwyr a'r risgiau i'r gweithlu. Dylai gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol ddilyn y canllawiau ar gyfarpar diogelu proffesiynol wrth ymweld â chartrefi preifat.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod trefniadau amgen eisoes wedi'u gwneud sy'n cydymffurfio â'r cyngor ar gadw pellter cymdeithasol, gan ddefnyddio dulliau digidol a rhithwir lle bo hynny'n briodol. Dylai'r trefniadau hyn barhau yn unol â chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gadw pellter cymdeithasol.

Hefyd, dylid atal cyswllt wyneb yn wyneb rhwng aelodau o'r teulu sy'n byw mewn cartrefi gwahanol, gan gynnwys mewn achosion lle mae'r cyswllt wedi'i orchymyn gan lys. Un o egwyddorion allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 yw y dylid sicrhau bod cyswllt parhaus rhwng y plentyn a'i deulu tra bydd y plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol. Dylai trefniadau o'r fath ganolbwyntio ar anghenion y plentyn a chael eu llywio ganddynt. Gall cyswllt parhaus â brodyr a chwiorydd, rhieni, neiniau a theidiau ac unigolion eraill o bwys fod yn ffactor hollbwysig wrth gefnogi sefydlogrwydd lleoliad.

Bydd y trefniadau cyswllt presennol wedi'u nodi yng nghynllun gofal a chymorth plentyn sy'n derbyn gofal. Bydd y rhain bob amser yn disgrifio amlder a hyd y cyswllt ag aelodau'r teulu a ph'un a ddylai'r cyswllt hwnnw gael ei oruchwylio ai peidio.

Rydym yn disgwyl y bydd mathau amgen o gyswllt rhwng plant mewn gofal a'u perthnasau biolegol yn parhau. Mae'n hollbwysig bod plant a theuluoedd yn cadw mewn cysylltiad ar yr adeg anodd hon, ac i rai plant, byddai peidio â gweld perthnasau yn brofiad trawmatig iawn. Dylai awdurdodau lleol ystyried ffyrdd o ddarparu cyfarpar i deuluoedd i'w galluogi i gynnal cyswllt parhaus.

Felly, dylid asesu trefniadau cyswllt fesul achos gan ystyried amrywiaeth o ffactorau, yn cynnwys canllawiau'r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol ac anghenion y plentyn. Efallai na fydd yn bosibl nac yn briodol i'r cyswllt wyneb yn wyneb arferol ddigwydd ar yr adeg hon, a bydd angen iddo ddigwydd ar ffurf rithwir gan amlaf. Rydym yn disgwyl i ysbryd unrhyw orchmynion cyswllt a wnaed mewn perthynas â phlant mewn gofal gael eu cynnal, a mater i weithwyr cymdeithasol fydd penderfynu ar y ffordd orau o gefnogi'r adegau rhyngweithio gwerthfawr hynny â'r teulu yn seiliedig ar amgylchiadau pob achos.

Rydym yn gweithio'n galed ym mhob rhan o'r llywodraeth a gyda'r farnwriaeth er mwyn gwneud yn siŵr bod y system cyfiawnder teuluol yn parhau i weithredu yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae'r Llysoedd Teulu wedi cyhoeddi canllawiau ar symud tuag at gynnal gwrandawiadau o bell.

Cadw mewn cysylltiad â theuluoedd agored i niwed, plant ar y gofrestr amddiffyn plant a phlant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni

Mae cynnal cyswllt gweithiwr cymdeithasol â theuluoedd agored i niwed, lle y gall plant fod ar ymyl y system ofal, ar y Gofrestr Amddiffyn Plant neu wedi'u lleoli gartref gyda'u rhieni o dan Orchmynion Gofal, yn hollbwysig. Dylai gweithwyr cymdeithasol barhau i gadw mewn cysylltiad â'r plant a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi dros y ffôn, drwy Skype neu FaceTime, neu drwy gyfrwng digidol arall. Dylent hefyd wneud y defnydd gorau o'r ddarpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant cofrestredig.

Os bydd gweithwyr cymdeithasol o'r farn bod angen gweld plentyn yn gorfforol oherwydd lefel y risg i'r plentyn, dylent ddefnyddio ffyrdd arloesol o weithio, gan gynnwys siarad â'r teulu o bellter diogel wrth y drws ffrynt neu drwy ffenestr a/neu weld y plentyn o bellter diogel. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod llawer o awdurdodau lleol eisoes yn gwneud hyn a byddem yn disgwyl i'r dull gweithredu hwn gael ei efelychu ledled Cymru.

Dylid asesu risg unrhyw ymweliad â chartref a chydymffurfio â chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gadw pellter cymdeithasol. Os na fydd yn ymarferol nac yn bosibl cynnal pellter cymdeithasol yn ystod ymweliad â chartref, yna dylid dilyn y canllawiau canlynol: PPE guidance_COVID-19.pdf. Mae'r canllawiau hyn yn pennu y dylai gweithwyr gofal cymdeithasol fod yn defnyddio cyfarpar diogelu personol ym mhob lleoliad os na ellir cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr.  

Dylid parhau i gynnal ymweliadau diogelu statudol i weld plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o leiaf bob 10 diwrnod gwaith. Os penderfynir, yn dilyn asesiad risg, y gellir bodloni'r gofyniad hwn drwy gyswllt o bell/rhithwir â rhai plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, rhaid i reolwr gytuno â'r penderfyniad hwn a rhaid i'r rhesymeg drosto gael ei gofnodi. Ym mhob achos, dylid adolygu'r risgiau yn aml ac o leiaf unwaith yr wythnos.

Pan fydd gweithwyr cymdeithasol ac aelodau eraill o staff yn ymweld â chartrefi, dylid cymhwyso'r canllawiau ar gyfarpar diogelu personol. Dylid gwneud galwadau sgrinio â rhieni/gofalwyr cyn ymweliad er mwyn canfod amgylchiadau'r teulu. Bydd cyfyngiadau o ran y cyswllt sydd gan wasanaethau cyffredinol ac ataliol â phlant a theuluoedd erbyn hyn yn golygu y bydd rhai plant yn wynebu mwy o risg. Efallai y bydd angen cyswllt amlach ar rai plant a theuluoedd o ganlyniad i hyn, a dylid gwneud penderfyniadau fesul achos yn seiliedig ar asesiadau risg parhaus. Dylai hyn hefyd lywio penderfyniadau ynglŷn â pha blant y mae angen eu gweld yn gorfforol.

Cynadleddau amddiffyn plant cychwynnol, cyfarfodydd grŵp craidd cychwynnol/dilynol a chynlluniau gofal, cymorth ac amddiffyn

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y trefniadau mewn perthynas â COVID-19, gallu'r gweithlu a natur y risg i blant a theuluoedd, sy'n newid yn gyflym, yn cyflwyno heriau gwirioneddol iawn i'r broses o wneud penderfyniadau amlddisgyblaethol am amddiffyn plant a'r broses arferol o lunio cynlluniau gofal, cymorth ac amddiffyn ar gyfer plant unigol. Fodd bynnag, dylid parhau i gynnal cynadleddau a chyfarfodydd grŵp craidd gan ddefnyddio ffyrdd arloesol fel technoleg cyfarfod o bell.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd rydym yn cydnabod y bydd angen i benderfyniadau am ddiogelu gael eu harwain gan Wasanaethau Cymdeithasol Plant ar sail y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael iddynt. Mae natur newidiol risg ac angen yn golygu bod angen i reolwyr adolygu achosion yn rheolaidd er mwyn cael y darlun diweddaraf o risgiau fesul achos i lywio penderfyniadau am natur ac amlder y cyswllt â phlant a'u teuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai'r capasiti i adolygu a diweddaru Cynlluniau Gofal, Cymorth ac Amddiffyn yn y ffordd arferol gael ei lesteirio yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, dylid cadw cofnod clir o'r penderfyniadau a wnaed, unrhyw newidiadau o ran lefel y risg a'r ymateb i hynny.

Cyswllt â gofalwyr maeth

Rydym yn disgwyl y bydd pob plentyn mewn gofal maeth yn parhau i gael ei gefnogi i gynnal cyswllt â'i deulu biolegol a gallu treulio amser gyda'i frodyr a'i chwiorydd, er enghraifft, mewn unrhyw ffordd bosibl. Gallai hyn fod drwy alwadau ffôn dyddiol neu reolaidd, sgyrsiau drwy gyswllt fideo, defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu ddulliau eraill.  Rydym yn cydnabod na fydd gan bob teulu fynediad i'r rhyngrwyd na gliniaduron, ac mewn llawer o achosion efallai mai mynediad cyfyngedig fydd gan blant i ddyfeisiau electronig neu na fydd hawl ganddynt i gael cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, felly bydd angen ystyried hyn a chefnogi teuluoedd maeth i helpu plant i gadw mewn cysylltiad, er enghraifft drwy ysgrifennu llythyr.

Dylai'r trefniadau hyn geisio bodloni'r disgwyliadau a bennir yn adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhesymol er mwyn sicrhau y gellir cynnal cyswllt yn y ffordd fwyaf diogel a phriodol o dan yr amgylchiadau presennol.

Cyswllt drwy orchmynion llys ac achosion sy'n mynd rhagddyn

Bydd y llysoedd yn disgwyl i awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol ar ôl ystyried yr holl ffactorau perthnasol.

Mae Llywydd yr Is-adran Deuluoedd a Phennaeth Cyfiawnder Teuluol Cymru a Lloegr wedi rhoi cyngor yn ei ddatganiad, Coronavirus crisis: guidance on compliance with family court child arrangement orders. Er bod y datganiad hwn wedi'i gyfeirio at deuluoedd sydd wedi gwahanu sy'n destun achosion cyfraith breifat, mae'r egwyddorion yn berthnasol. Os oes cyswllt drwy orchymyn llys, ac na all y cyswllt ddigwydd neu os yw'n digwydd o bell, dylai awdurdodau lleol gofnodi'r rhesymau dros eu penderfyniadau.

Rydym yn cydnabod bod canolfannau cyswllt ar gau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os oes trefniadau cyswllt wedi'i oruchwylio ar waith, dylid ystyried goruchwylio'r cyswllt drwy ddefnyddio technoleg fideo-gynadledda yng nghartref y gofalwr maeth, gydag aelod o'r staff yn bresennol yn ystod y fideogynhadledd, lle y bo hynny’n ddiogel, er mwyn cynnal lefelau goruchwylio. Os yw'r teulu'n hunanynysu neu'n cael ei warchod, dylai'r aelod o'r staff fod yn bresennol o bell.

Cyswllt â babanod/mamau biolegol

Dim ond yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol y byddem yn disgwyl i gyswllt wyneb yn wyneb ddigwydd, neu pe bai methu â gwneud hynny'n cael effaith andwyol sylweddol ar lesiant y plentyn. Gall enghreifftiau o'r fath gynnwys babanod newydd-anedig, babanod a phlant bach, lle rydym yn cydnabod y bydd yn anodd rheoli cydymffurfiaeth â'r mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Lle mae angen parhau i gynnal cyswllt wyneb yn wyneb, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod pawb dan sylw wedi'i amddiffyn cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol bosibl, gan ystyried amgylchiadau'r teulu, drwy gadw pellter cymdeithasol a chadarnhau nad oes gan neb dan sylw symptomau COVID-19. Mae'n bosibl yr ystyrir mesurau ychwanegol er mwyn galluogi cyswllt wyneb yn wyneb gan gynnal pellter cymdeithasol ar yr un pryd, gan gynnwys trefnu cyswllt mewn mannau agored, er mwyn helpu i reoli'r risg o haint.

Dylid asesu'r amgylchiadau, gan gynnwys iechyd y plentyn a'r rhiant, y risg o haint ac unrhyw bobl eraill agored i niwed sy'n byw ym mhob cartref. Dylid gwneud penderfyniadau gan ystyried cyfrifoldebau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol a'r hyn sy'n gyfystyr â chyswllt rhesymol. Dylid darparu tystiolaeth glir o bob penderfyniad, gan gynnwys yr holl ffactorau perthnasol, a'u cofnodi.

Canllawiau i deuluoedd sydd wedi gwahanu

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru, 'Canllawiau aros gartref a chadw draw oddi wrth bobl eraill', a gyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2020 ar wefan Llywodraeth Cymru, yn nodi'r cyngor ynghylch plant rhieni sydd wedi gwahanu neu ysgaru.

Mae'n nodi 'lle nad yw rhieni'n byw yn yr un cartref, gall plant o dan 18 gael eu symud rhwng cartrefi eu rhieni.' Yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydym yn annog rhieni i gydweithio i ddod o hyd i ddatrysiad a chynnal ymdeimlad o drefn ar gyfer eu plant. Os gallai'r sefyllfa sydd ohoni effeithio ar amser plant gyda rhiant, rydym yn annog rhieni i roi cynnig ar ddulliau cyfathrebu gwahanol, er enghraifft Skype, Zoom a Google Hang Out.

Fel y trafodwyd uchod, er bod y datganiad a gyhoeddwyd gan Lywydd yr Is-adran Teuluoedd yn ymwneud â Gorchmynion Trefniadau Plant Llysoedd Teulu, mae'n berthnasol i bob teulu sydd wedi gwahanu lle mae gan y plant gysylltiadau â mwy nag un cartref.  Mae'r datganiad yn cynnig cyngor cyffredinol i rieni, gan gydnabod y bydd amgylchiadau pob plentyn a theulu yn wahanol.

Cynlluniau gofal a chymorth, cynlluniau llwybrau ac adolygiadau

Rydym yn cydnabod y bydd yr argyfwng presennol yn ei gwneud hi'n anodd i awdurdodau lleol fodloni rhai o'r gofynion a bennir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â datblygu cynlluniau gofal a chymorth ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd ac adolygiadau statudol. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, cynnal asesiadau iechyd o fewn y terfynau amser presennol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal neu'r terfynau amser ar gyfer adolygu a chynnal cynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau llwybrau.

Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol wneud pob ymdrech i gydymffurfio'n llawn â'r ddeddfwriaeth yn ystod yr argyfwng hwn a pharhau i roi ystyriaeth lawn i anghenion a dymuniadau'r plant yn eu gofal. Mae'n hollbwysig bod y broses o ddatblygu cynlluniau gofal a chymorth/cynlluniau llwybrau yn parhau a'u bod yn cael eu cwblhau, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol penodol yn llawn yn y broses honno a hwyluso barn plant a theuluoedd, fel y bo'n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd goblygiadau ymarferol o ran cyflawni ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth o fewn y terfynau amser a sicrhau cyfraniad effeithiol gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac addysg yn ystod yr argyfwng presennol.

Bydd Swyddogion Adolygu Annibynnol yn parhau i fod yn gyfrifol am fonitro perfformiad awdurdodau lleol mewn perthynas â chynllun gofal a chymorth Rhan 6 plentyn a chynnal adolygiadau rheolaidd. Er na chynghorir cynnal cyfarfodydd adolygu ffisegol, dylai Swyddogion Adolygu Annibynnol ddefnyddio dulliau digidol o gynnal adolygiadau, monitro cynnydd a gwneud penderfyniadau. Dylai cyfarfodydd adolygu barhau i fod yn rhai amlasiantaethol, gan gynnwys asiantaethau a gweithwyr proffesiynol allweddol fel y bo'n rhesymol ymarferol, a dylent gynnwys rôl eiriolwyr a hwyluso dymuniadau'r plentyn ac aelodau o'i deulu. 

Maethu

Rydym yn cydnabod y pwysau ar wasanaethau a lleoliadau maethu yn ystod y cyfnod hwn.  Mae awdurdodau lleol eisoes yn rhoi mesurau ar waith i gefnogi gofalwyr maeth a sicrhau sefydlogrwydd parhaus y gweithlu a lleoliadau. Mae AfA Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar weithredu'n effeithiol yn ystod y cyfnod hwn.

Beth ddylai ddigwydd i blant maeth os bydd gofalwyr maeth yn hunanynysu neu'n mynd yn sâl?

Mae cynnal lleoliad sefydlog parhaol i blant lle bynnag y bo hynny'n bosibl yn hollbwysig. Os bydd gofalwyr/plant maeth yn dechrau datblygu symptomau COVID-19, byddem yn disgwyl i'r plant aros gyda'u rhieni maeth yn unol â'r canllawiau ar hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol. Er ei bod yn adeg ansicr i'r rhai sy'n ymwneud â gofalu am blant mewn gofal maeth a'u cefnogi, rydym yn ddiolchgar am y cymorth a'r sefydlogrwydd parhaus sy'n cael ei ddarparu i blant mewn gofal maeth.

Beth os nad oes digon o ofalwyr maeth i ofalu am blant ychwanegol neu roi seibiant i ofalwyr maeth eraill sydd wedi mynd yn sâl?

Rydym yn cydnabod y gallai fod yn anodd darparu seibiant ychwanegol i ofalwyr maeth yn y cyd-destun hwn. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod systemau'n parhau ar waith i gynnal ymgeiswyr sydd â diddordeb a nodi ffyrdd o ryddhau lle mewn cartrefi maeth presennol er mwyn ei gwneud yn haws nodi lleoliadau posibl a sicrhau bod gofalwyr maeth newydd yn cael eu hasesu a'u cymeradwyo.

Lle y gall fod angen i blant gael gofal am gyfnod byr o amser at ddibenion seibiant os yw'r rhieni biolegol neu'r gofalwyr maeth yn sâl, gall awdurdodau lleol addasu'r ddarpariaeth seibiant byr bresennol at ddibenion gwahanol. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylai awdurdodau lleol newid eu datganiad o ddiben ar gyfer y lleoliadau hyn a hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru. Rydym wrthi'n ystyried hyblygrwydd yn y rheoliadau a'r canllawiau a allai helpu'r broses o gymeradwyo gofalwyr maeth a lleoliadau brys dros dro.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni recriwtio a chymeradwyo mwy o ofalwyr maeth yn y byrdymor. Beth sy'n cael ei wneud i newid y rheoliadau sy'n ymwneud â phaneli maethu?

Rydym yn cydnabod y bydd gwasanaethau maethu yn awyddus i benodi mwy o ofalwyr maeth brys er mwyn helpu i gynyddu capasiti yn eu gwasanaethau rhag ofn y bydd galw ychwanegol. Byddem yn eu hannog i wneud hyn. Er y byddant am sicrhau bod y prosesau asesu a chymeradwyo yn drylwyr ac yn cydymffurfio â'r rheoliadau, nid ydym am i hyn gael ei oedi'n ddiangen.

Er bod yr argyfwng yn cyflwyno heriau newydd, deallwn fod lleoliadau maeth yn parhau'n sefydlog ar hyn o bryd yng Nghymru a bod awdurdodau lleol wedi bod yn cynnig mwy o gymorth i ofalwyr maeth.  Rydym yn ystyried cynlluniau wrth gefn os bydd y sefyllfa hon yn newid, gan gynnwys nodi addasiadau y gellir eu gwneud dros dro i'r rheoliadau/canllawiau ar faethu mewn perthynas â chymeradwyo gofalwyr maeth, lleoliadau brys ac aelodau panel dros dro yn yr amgylchiadau hyn.  Credwn fod digon o hyblygrwydd eisoes yn Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 i alluogi gwasanaethau maethu i gynnull paneli o bell.

A allwn ni newid nifer y plant y gall cartref maeth ofalu amdanynt?

Mae'n bosibl y bydd angen i delerau cymeradwyo gofalwyr maeth, gan gynnwys ystod oedran a nifer y lleoliadau, fod yn hyblyg yn yr amgylchiadau presennol. Os bydd gwasanaethau maethu yn poeni am gapasiti, dylent ddechrau nodi cartrefi maethu posibl a allai gynnig lle i blant ychwanegol a chynnal sgyrsiau sensitif a phriodol fel rhan o'u gwaith cynllunio wrth gefn. Ni fydd disgwyl i unrhyw gartref maethu roi lle i blant ychwanegol, ond bydd llawer ohonynt am gynnig help a dylid galluogi'r teuluoedd hyn i wneud hynny.

Ar hyn o bryd mae Atodlen 7 i Ddeddf Plant 1989 yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd wrth leoli mwy nag un plentyn gyda'i gilydd drwy ganiatáu i awdurdodau lleol wneud i'r terfyn maethu arferol mewn lleoliadau penodol.

A ddylai gwasanaethau wneud taliadau ychwanegol i ofalwyr maeth yn ystod pandemig COVID-19?

Gwasanaethau maethu ddylai benderfynu ar y ffordd orau o gefnogi eu gofalwyr maeth yn ystod y pandemig. Mae canllawiau AfA Cymru yn cynnig cyngor defnyddiol i wasanaethau i'w helpu i wneud penderfyniadau. 

Cartrefi preswyl plant

Mae sicrhau bod plant agored i niwed yn parhau i gael eu hamddiffyn yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chartrefi preswyl ar gynlluniau parhad er mwyn sicrhau y gallant barhau ar agor yn ddiogel i wneud yn siŵr bod y plant yn y cartrefi hyn yn parhau i gael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Os bydd darparwyr yn awyddus i newid diben cartref gofal o ddarpariaeth seibiant byr i gymorth yn ystod pandemig COVID-19, bydd angen iddynt anfon hysbysiad o newid i'w datganiad o ddiben i AGC.

Dylech barhau i hysbysu AGC os bydd eich cartref yn cau. Os bydd gennych brinder staff uniongyrchol neu os byddwch yn rhagweld y bydd gennych brinder staff cyn bo hir a all olygu y bydd yn rhaid i chi gau eich cartref, dylech drafod hynny ar fyrder â'r awdurdodau lleoli lleol perthnasol. Byddai hefyd yn ddefnyddiol i chi hysbysu AGC a fydd yn rhannu'r wybodaeth hon â Llywodraeth Cymru.

Rydym yn disgwyl i bob plentyn mewn gofal preswyl barhau i gael ei gefnogi i gynnal cyswllt â'i deulu biolegol a gallu treulio amser gyda'i frodyr a'i chwiorydd. Efallai na fydd yn bosibl nac yn briodol i gyswllt wyneb yn wyneb ddigwydd yn ystod y cyfnod hwn, a bydd angen i'r cyswllt ddigwydd, yn bennaf, ar ffurf rithwir. Gallai hyn fod drwy alwadau ffôn dyddiol neu reolaidd, sgyrsiau drwy gyswllt fideo, defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu ddulliau eraill.

Os na ellir dod o hyd i leoliadau mewn cartrefi plant neu ofal maeth, a yw'n dderbyniol defnyddio darpariaeth heb ei chofrestru?

Bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau bod y llety a ddarperir i blant yn diwallu eu hanghenion hyd eithaf eu gallu o ystyried y cyd-destun presennol.

Rhaid i unrhyw wasanaeth sy'n darparu gofal a llety i blant, fel y'i  diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 fod wedi'u cofrestru ag AGC fel cartref gofal i blant.

Gall lleoliadau mewn darpariaeth annibynnol neu rannol annibynnol fod yn ddewis cywir i rai pobl ifanc, gan gynnig carreg camu tuag at fywyd fel oedolyn, ac rydym yn disgwyl i'r rhain barhau. Os yw'r gwasanaeth yn darparu gofal, rhaid iddo fod wedi'i gofrestru ag AGC.

Dylai awdurdodau lleol barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i hybu llesiant plant sy'n derbyn gofal a sicrhau eu diogelwch yn unol â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Mabwysiadu

Dylai pob plentyn barhau i gael y cyfle gorau i ffynnu mewn amgylchedd teulu diogel lle y caiff ei anghenion sylfaenol eu diwallu a lle y gall fwynhau’r un cyfleoedd ag unrhyw blentyn arall. I rai plant sy’n agored i niwed, mae mabwysiadu yn ymyrraeth gadarnhaol ac effeithiol i ddiwallu eu hanghenion gofal a gwella eu canlyniadau cyffredinol.

Mae’n hollbwysig nad ydym yn anghofio pwysigrwydd bwrw ymlaen â lleoliadau mabwysiadu yn y cyfnod anodd hwn Mae’n bwysig bod Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol yn parhau i fwrw ymlaen â’r broses cyn belled â phosibl ar gyfer y plant hyn, gan weithio mewn ffyrdd arloesol a hyblyg lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Gorau po fwyaf y gellir ei wneud fel rhan o’r broses nawr, gan y bydd yn galluogi asiantaethau i brosesu achosion yn gynt pan fydd argyfwng COVID-19 drosodd, gan felly ddarparu lleoliadau parhaol i’r plant hyn a rhyddhau lleoliadau maeth y bydd eu hangen i ddiwallu anghenion plant eraill sy’n agored i niwed yng Nghymru.

A ddylem atal pob cyfarfod rhagarweiniol ar gyfer plant gyda rhieni sy'n mabwysiadu newydd?

Er ein bod yn deall y bydd y cyfarfodydd hyn yn heriol yn yr amgylchiadau presennol, ni ddylid eu gwahardd yn llwyr. Mae angen gwneud penderfyniad fesul achos, ar sail risg. 

Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrthi'n datblygu fframwaith i gefnogi gwasanaethau yng Nghymru i ystyried a yw hyn yn bosibl fesul achos unigol, gan gydymffurfio â'r canllawiau cyfreithiol angenrheidiol a'r cyfyngiadau sydd wedi'u gosod i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol ar yr un pryd. Dylai Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol ystyried defnyddio technoleg gyfathrebu i barhau â'r broses fabwysiadu lle y bo'n bosibl.

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, a oes rhaid i ni gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2020?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y goblygiadau sy'n gysylltiedig â chyflwyno Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 ac wedi rhoi sicrwydd i ddarparwyr na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd, boed hynny drwy ddefnyddio pwerau Cyfarwyddyd Gweinidogol neu fel arall, mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri gofynion y Rheoliadau newydd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2020 neu nes y bydd pethau'n dychwelyd i'r arfer, pa un bynnag fydd gyntaf, ar yr amod bod rheswm da dros hynny.

Mewn rhai amgylchiadau, gallai hyn olygu y bydd asiantaethau'n cynnal prosesau Cam 1 a Cham 2 ar yr un pryd os byddant yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn ofynnol i'r holl wiriadau angenrheidiol, gan gynnwys asesiadau iechyd a gwiriadau gan y DBS, gael eu cwblhau'n llawn cyn cymeradwyo mabwysiadwr. Gallai hyn olygu, er enghraifft, na chaiff asesiadau meddygol eu cynnal tan ddiwedd y broses. Fodd bynnag, rydym wrthi'n ystyried y materion sy'n gysylltiedig â chynnal asesiadau meddygol yn ystod yr argyfwng, a chaiff y canllawiau eu diweddaru'n unol â hynny.

Bydd rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i asiantaethau yn ystod yr argyfwng hwn yn galluogi rhai gwasanaethau i barhau â'u gwaith cymaint â phosibl a thrwy hynny'n galluogi asiantaethau i brosesu achosion yn gynt pan fydd yr argyfwng drosodd.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni all darpar fabwysiadwyr ddefnyddio'r Mecanwaith Adolygu Annibynnol (IRM) os yw'r rhesymau pam nad ydynt yn addas i fabwysiadu naill ai'n gysylltiedig â'u hasesiad iechyd neu eu gwiriad gan y DBS.

A ddylem atal paneli mabwysiadu?

Dylai Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol ystyried sut y gellir parhau i gynnal paneli er mwyn sicrhau bod y system fabwysiadu'n parhau i leoli plant, ond rydym yn derbyn y gall fod rhywfaint o oedi, yn enwedig ar gyfer achosion mwy cymhleth. 

Dylid ystyried parhau i gynnal paneli o bell drwy fideoalwadau a fideogynadleddau, a dylid penderfynu ar hyn fesul achos. Dim ond drwy alwadau fideo/ffôn y dylid gofyn i rieni sy'n mabwysiadu a darpar fabwysiadwyr ymuno.

Ymweliadau â phlant a theuluoedd

Dylai teuluoedd y mae angen ymweld â nhw, yn enwedig ar gyfer cymorth mabwysiadu, gael eu blaenoriaethu ar sail angen. Pan fydd angen ymweld â theuluoedd, bydd angen cynnal asesiadau risg. Dylid cynnig cyngor a chymorth o bell lle bo hynny'n briodol.

Paratoi a hyfforddiant arall i fabwysiadwyr

Er y bydd angen atal rhai sesiynau hyfforddi, dylai Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol geisio rhoi cynlluniau ar waith i barhau i hwyluso cynifer o ddulliau eraill â phosibl, megis fidegynadledda neu gyfleusterau eraill.

A yw'r term 'plant agored i niwed' yn cynnwys plant wedi'u mabwysiadu ar gyfer y ddarpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant cofrestredig?

At ddiben darpariaeth mewn ysgolion a/neu leoliadau gofal plant cofrestredig, mae plant agored i niwed yn cynnwys y rhai hynny sydd â gweithiwr cymdeithasol a Datganiadau o anghenion addysgol arbennig. O blith y rhain, dylai'r rhai mwyaf agored i niwed gael eu blaenoriaethu gan awdurdodau lleol yn ôl y plant sydd â'r angen mwyaf am y ddarpariaeth.

At ddiben y ddarpariaeth hon, dylai'r rhai sydd â gweithiwr cymdeithasol gynnwys plant â chynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau cymorth, plant ar y gofrestr amddiffyn plant a phlant sy'n derbyn gofal.

Pa gymorth arall y gall teuluoedd sy'n mabwysiadu ei gael?

Mae'n amlwg y gallai pandemig COVID-19 roi pwysau a straen ychwanegol ar deuluoedd. Mae'n hollbwysig bod teuluoedd sydd â'r angen mwyaf am gymorth yn cael yr help cywir mewn modd amserol.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf ar gael ym mhob awdurdod lleol ac yn rhoi cymorth cynnar i deuluoedd sy'n helpu i atal problemau rhag gwaethygu. Caiff rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ei darparu drwy awdurdodau lleol ac mae'r broses atgyfeirio ar gael ar wefannau awdurdodau lleol ynghyd â llinell gyngor y gall teuluoedd neu weithwyr proffesiynol ei defnyddio i gysylltu.

Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol

Mae pob Asiantaeth Fabwysiadu Ranbarthol a Gwirfoddol yn parhau i ddarparu cymorth parhaus i bob teulu sy'n mabwysiadu sydd naill ai eisoes yn cael cymorth neu sy'n gwneud cais am gymorth. Mae'r mwyafrif o ymweliadau cymorth wyneb yn wyneb wedi cael eu hatal ac mae cymorth yn cael ei gynnig o bell drwy Skype neu gyfleusterau fideoalwadau eraill. Lle roedd grwpiau cymorth wedi'u cynllunio, mae'r rhain bellach yn cael eu sefydlu o bell. Yn yr un modd, mae unrhyw sesiynau therapiwtig yn cael eu cynnal yn yr un ffordd.

https://www.adoptionwales.org/

https://www.barnardos.org.uk/barnardos-cymru

Adoption UK Cymru

Mae elusen Adoption UK Cymru yn parhau i gynnal ei llinell gymorth sydd ar agor i unrhyw un y mae angen cyngor penodol arno ar rianta neu fabwysiadu. Mae ganddi hefyd fforwm i unrhyw un sydd am rannu pryderon ag eraill sy'n profi'r un teimladau ynghyd â rhestr o gwestiynau cyffredin ar ei gwefan. Gall yr aelodau fanteisio ar rwydwaith o grwpiau cymunedol lleol, a arweinir gan dîm o wirfoddolwyr profiadol sy'n fabwysiadwyr eu hunain.

Yn yr hinsawdd bresennol, mae cyfarfodydd corfforol wedi cael eu hatal, ond gall yr aelodau barhau i ymgysylltu â'u cymuned leol drwy grwpiau negeseua a rhith-gyfarfodydd ar-lein. Mae grwpiau rhithwir a hyfforddiant ar-lein hefyd ar gael yn ogystal â sesiynau cymorth un i un a chymorth cymheiriaid i unrhyw un sy'n delio ag ymddygiad heriol.

Mae Gwasanaethau Therapiwtig, Addysg a Chymorth ym maes Mabwysiadu (TESSA) yn parhau i gynnal atgyfeiriadau, ymgynghoriadau a gwaith paru â phartneriaid sy'n rhieni.

Mae Connected, sef gwasanaeth i blant a phobl Ifanc yng Nghymru, yn cynnal trafodaethau unigol â phob teulu er mwyn nodi'r hyn y gellir ei gynnig i blant a phobl ifanc.  Mae'r cymorth o dan y cynllun hwn wrthi'n cael ei ddatblygu.

https://www.adoptionuk.org/Wales.

Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Mae gwefan ganolog y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrthi'n cael ei haddasu er mwyn sicrhau bod mabwysiadwyr yn deall y sefyllfa bresennol mewn perthynas â COVID-19 a'u bod yn cael eu cyfeirio'n briodol. Mae'r Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol a Gwirfoddol yn diweddaru'r holl sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, gan gyfeirio mabwysiadwyr at wybodaeth, grwpiau cymorth a fforymau eraill.

https://adoptcymru.com/

Y rhai sy'n gadael gofal

Sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r rhai sy'n gadael gofal?

Gwyddom fod y rhai sy'n gadael gofal yn arbennig o agored i niwed yn ystod yr argyfwng hwn a'i bod yn debygol y bydd angen mwy o gymorth arnynt na'r arfer. Gwyddom fod awdurdodau lleol wedi addasu'n gyflym i'r amgylchiadau a'u bod yn darparu cymorth parhaus effeithiol.

Dylai awdurdodau barhau i gyflawni eu dyletswyddau statudol, gan gynnwys cynnig cynghorwyr personol i'r rhai sy'n gadael gofal a pharatoi neu adolygu cynlluniau llwybrau gan ddefnyddio ffyrdd arloesol. Rydym yn cydnabod y pwysau ychwanegol sydd ar awdurdodau lleol, ac os oes modd iddynt addasu'r cymorth y gallant ei gynnig i'r rhai sy'n gadael gofal yn ystod y cyfnod hwn, dylent asesu eu hanghenion a rhoi blaenoriaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed. 

Mae sefydliadau Trydydd Sector yn barod i ddarparu cymorth. Mae Voices from Care wedi datblygu pecyn cymorth pwrpasol i'r rhai sy'n gadael gofal, sydd wedi'i ddosbarthu i awdurdodau lleol. Bwriedir i'r cymorth a gynigir gefnogi lles emosiynol drwy gynnig gofod cymdeithasol rhithwir. Maent hefyd yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth a chyngor pwrpasol a byddant hefyd yn ceisio addasu eu gwasanaeth wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Dylai darparwyr gwasanaethau barhau i gynnig pob ymyrraeth eirioli ar gyfer y cynnig gweithredol ac eiriolaeth yn seiliedig ar faterion, gan ddefnyddio technoleg i hwyluso cymorth o bell.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r canllawiau ar gyfer Cronfa Dydd Gŵyl Dewi, gan nodi y dylai awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i'r rhai sy'n gadael gofal a allai fod mewn caledi ariannol o ganlyniad i golli incwm, anawsterau gyda chytundebau tenantiaeth, bwyd a hanfodion bywyd sylfaenol eraill.

Gellir gweld cyngor Llywodraeth Cymru i'r rhai sy'n gadael gofal sy'n byw mewn llety â chymorth a'r rhai mewn llety rhent preifat drwy ddilyn y ddolen hon.  

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ychwanegu cyngor at ei Hwb Gwybodaeth, gan restru amrywiaeth o gymorth i'r rhai sy'n gadael gofal.

A oes disgwyl i gynghorwyr personol barhau i ymweld â'r rhai sy'n gadael gofal, ac a allant wneud hynny?

Mater i gynghorwyr personol unigol fydd penderfynu ar natur eu cyswllt â'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw yn ystod y cyfnod hwn. I rai, bydd hyn yn dal i gynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb.

Lle y bo'n briodol, rydym yn annog cynghorwyr personol i ddefnyddio technoleg i gysylltu â phobl ifanc drwy fideoalwadau neu fideogynadleddau, er mwyn lleihau'r angen am gyswllt wyneb yn wyneb. Rydym yn cydnabod y gall fod angen newid lefel y cyswllt â phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â'r math o gyswllt.

Mater i gynghorwyr personol hefyd fydd penderfynu ar lefel ac amlder y cyswllt â phob unigolyn sy'n gadael gofal, gan ystyried ei amgylchiadau unigol a pha mor agored i niwed y mae, ond gan dybio y bydd angen mwy o gymorth na'r arfer ar y rhai sy'n gadael gofal yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Dylai cynghorwyr personol a'u rheolwyr ddefnyddio eu barn eu hunain i asesu lefel y risg a blaenoriaethu achosion lle na ellir osgoi cyswllt wyneb yn wyneb, a lle nad yw'n bosibl darparu'r lefel gywir o gymorth i'r unigolyn sy'n gadael gofal dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo.

Lle yr ystyrir bod angen gwaith wyneb yn wyneb, dylai cynghorwyr personol ystyried y cyngor ar gadw pellter cymdeithasol a'r defnydd o gyfarpar diogelu personol, er mwyn atal yr haint rhag lledaenu a'u diogelu nhw eu hunain a'r rhai sy'n derbyn gofal y maent yn ymweld â nhw, gymaint â phosibl.

A ddylem barhau i bontio'r rhai sy'n gadael gofal sy'n troi'n 18 oed i fywyd annibynnol? A ellir parhau i symud y rhai sy'n derbyn gofal rhwng lleoliadau llety gwahanol os bydd angen?

Dylai awdurdodau lleol weithredu er budd gorau'r rhai sy'n gadael gofal. Byddem yn tybio y bydd y rhai sy'n gadael gofal yn cael eu cefnogi i aros yn eu llety presennol yn ystod y cyfnod hwn, os yw'r lleoliad hwnnw'n diwallu eu hanghenion. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd awdurdodau lleol a'r rhai sy'n gadael gofal yn dymuno parhau â'u cynlluniau i bontio i lety addas a/neu annibyniaeth. Os felly, dylai awdurdodau lleol fod yn hyderus y gallant ddarparu'r lefel briodol o gymorth ac arweiniad sydd ei hangen i sicrhau proses bontio lwyddiannus.

Rydym yn gwerthfawrogi y gall fod yn anodd dod o hyd i lety addas a llety sydd ar gael ar hyn o bryd, a bod angen sefydlogrwydd a chymorth ar bobl ifanc yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnod anodd hwn. Byddwn yn parhau i gynnal cyswllt â thimau gadael gofal awdurdodau lleol ynglŷn â'r pwysau y maent yn eu hwynebu ac, yn arbennig, anghenion llety, ar hyn o bryd.

Plant digwmni sy’n ceisio lloches

Ble y gall plant digwmni sy'n ceisio lloches symptomatig hunanynysu a beth sy'n cael ei wneud i gynyddu capasiti i ddarparu llety hunanynysu i blant digwmni sy'n ceisio lloches?

Pan fydd plentyn digwmni sy'n ceisio lloches yn cyrraedd Cymru gyda symptomau coronafeirws (COVID-19), bydd angen i'r awdurdod lleol sy'n ei dderbyn gymryd camau i sicrhau ei fod yn cael ei osod mewn llety addas ar wahân i bobl eraill yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Rydym yn annog awdurdodau lleol i ddod o hyd i staff a safle addas er mwyn galluogi'r plentyn i hunanynysu. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid comisiynu i ganfod a oes angen dod o hyd i lety a chymorth ychwanegol. Hefyd, bydd angen i awdurdodau lleol barhau i weithio yn ôl yr arfer gyda gwasanaethau Iechyd a gwasanaethau Trydydd Sector i ddarparu cymorth cofleidiol.

Mae cyngor ar y coronafeirws ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol yn ysgrifenedig ac ar ffurf fideo, yma: http://covid.reciteme.com/nhs-guidance/

ac yma: https://www.doctorsoftheworld.org.uk/coronavirus-information/ 

Pwy fydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am blant digwmni sy'n ceisio lloches mewn llety hunanynysu?

Fel sy'n wir am unrhyw blentyn sy'n cyrraedd yn ddigymell, dylai'r awdurdod lleol sy'n casglu'r plentyn i gychwyn (er enghraifft o orsaf yr heddlu neu Lu'r Ffiniau) asesu ei anghenion yn unol ag egwyddorion budd gorau fel y byddai mewn amgylchiadau arferol. Yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am y plentyn a dylai ei osod mewn llety hunanynysu addas os oes ganddo symptomau.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

O ganlyniad i'r heriau sylweddol, sy'n newid yn gyflym, y mae'r coronafeirws (COVID-19) yn eu cyflwyno i'r sector gofal plant a gofal cymdeithasol, mae AGC wedi rhoi'r gorau i gynnal pob arolygiad rheolaidd o 5pm ar 16 Mawrth.

Bydd AGC yn parhau i arolygu unrhyw wasanaeth os oes gennym bryderon sylweddol am ddiogelwch a llesiant pobl. Byddwn hefyd yn parhau i ystyried yr angen i gynnal arolygiadau mewn perthynas â phryderon a godir gyda ni.

Mae AGC wedi gwneud y penderfyniad hwn er mwyn sicrhau y gall awdurdodau lleol a darparwyr ganolbwyntio ar gynnal iechyd a diogelwch y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'u staff yn yr amgylchiadau eithriadol hyn.

Ein prif flaenoriaeth yw parhau i roi sicrwydd i'r cyhoedd a Gweinidogion am ddiogelwch gwasanaethau. Bydd ein penderfyniadau'n seiliedig ar dair egwyddor allweddol sydd â'r nod o sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn ddiogel:

  • byddwn yn canolbwyntio ein gweithgarwch lle mae ei angen fwyaf er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal diogel – mae hyn yn golygu canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae'r risg fwyaf i ansawdd y gofal a lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf, yn ein barn ni
  • byddwn yn cefnogi darparwyr drwy ystyried sut y gallwn weithredu'n hyblyg ac yn gymesur
  • byddwn yn anrhydeddu ein dyletswydd i ofalu am ein cydweithwyr yn AGC

Mae AGC yn monitro risg a breuder yn y system yn absenoldeb arolygiadau rheolaidd. Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys galwadau ffôn wythnosol i ddarparwyr a thrafodaethau rheolaidd â chomisiynwyr.

Cymorth i blant agored i niwed mewn lleoliadau addysg

Dylai pob plentyn gael gofal gartref os gellir gwneud hynny'n ddiogel, a dim ond lle nad oes dewis amgen diogel y dylid cynnig darpariaeth mewn ysgolion neu leoliadau eraill.

At ddiben darpariaeth mewn ysgolion a/neu leoliadau gofal plant cofrestredig, mae plant agored i niwed yn cynnwys y rhai hynny sydd â gweithiwr cymdeithasol a Datganiadau o anghenion addysgol arbennig. O blith y rhain, dylai'r rhai mwyaf agored i niwed gael eu blaenoriaethu gan awdurdodau lleol yn ôl y plant sydd â'r angen mwyaf am y ddarpariaeth.

At ddiben y ddarpariaeth hon, dylai'r rhai sydd â gweithiwr cymdeithasol gynnwys plant â chynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau cymorth, plant ar y gofrestr amddiffyn plant a phlant sy'n derbyn gofal.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am blant agored i niwed yn: https://llyw.cymru/plant-agored-i-niwed-diogelu-y-coronafeirws

Mae gwybodaeth am ddiogelu mewn lleoliadau addysg hefyd ar gael yn: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddiogelu-dysgwyr-mewn-addysg-y-coronafeirws

Mae gwybodaeth am barhau â'r cynnig gofal plant hefyd ar gael yn: https://llyw.cymru/coronafeirws-canllawiau-rhieni-ar-ofal-plant-i-rai-dan-bump-oed

Addysg heblaw yn yr Ysgol

Mae plant sy'n mynychu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac, yn arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, ymhlith ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Bydd gan gyfran uchel o'r disgyblion hyn weithiwr cymdeithasol, problemau iechyd meddwl fel iselder, gorbryder neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a/neu anghenion addysgol arbennig (AAA).

Dylai pob plentyn sy'n mynychu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol gael gofal gartref os gellir gwneud hynny'n ddiogel. Dylid rhoi trefniadau lleol ar waith i gefnogi'r plant hyn a'u teuluoedd. Mae darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol mewn sefyllfa dda i nodi a diwallu anghenion disgyblion pan na fyddant yn mynychu'r lleoliad ac mae ganddynt brotocolau ar waith i sicrhau bod disgyblion yn cael eu diogelu. Mae hyn yn cynnwys neilltuo aelod o'r staff i bob disgybl, sy'n gyfrifol am gynnal cyswllt rheolaidd mewn perthynas â llesiant a diogelwch, ac am gyfeirio unrhyw faterion at yr asiantaeth gymorth briodol.

Bydd angen i awdurdodau lleol drefnu lleoliadau gofal plant ar gyfer y plant hynny na allant aros gartref am eu bod yn agored i niwed neu am fod eu rhieni'n weithwyr allweddol.  Bydd y trefniadau a roddir ar waith yn dibynnu ar anghenion y disgybl. Dylai awdurdodau lleol weithio fesul achos, gan weithio gyda'r darparwr addysg heblaw yn yr ysgol, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill i wneud trefniadau priodol. Gallai hyn gynnwys parhau i fynychu unedau cyfeirio disgyblion, os bydd yr unedau hynny'n dal i fod ar agor at ddibenion gofal plant, mynychu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol amgen neu, lle y bo'n briodol, ysgol hyb leol. 

Plant sy'n cael eu haddysg yn y cartref

Dylai awdurdodau lleol hefyd gadw mewn cysylltiad â phlant sydd fel arfer yn cael eu haddysg yn y cartref gan eu rhieni a hyrwyddo'r adnoddau perthnasol sydd ar gael ar Hwb. Os bydd gwybodaeth i awgrymu bod plentyn yn agored i niwed, bydd yn bwysig cynnal cyswllt rheolaidd er mwyn cynnig cymorth i'r teuluoedd sydd ei angen a rhoi gwybod i Wasanaethau Cymdeithasol Plant am unrhyw bryderon am ddiogelu yn y ffordd arferol.