Eleni, mae Ramadan yn digwydd mewn cyfnod eithriadol, â’r byd yn delio â pandemig y coronafeirws.
Ysgrifennodd y Prif Weinidog:
Heno, bydd Mwslimiaid dros y byd yn dechrau Ramadan.
Mae Ramadan yn cynnal gwerthoedd craidd Islam – sef gweddi a dyngarwch, rhoi bwyd i’r tlodion a’r anghenus a chefnogi eraill.
Eleni, mae Ramadan yn digwydd mewn cyfnod eithriadol, â’r byd yn delio â pandemig y coronafeirws.
Oherwydd y rheolau presennol i gadw’n cymunedau yn ddiogel, bydd pob mósg yng Nghymru yn wag ac ni fydd modd torri’r ympryd trwy rannu Iftar gydag unrhyw un arall tu allan i’r cartref. Fel hyn fydd hi mewn sawl gwlad arall hefyd.
Mae’n anodd gorfod byw heb y seremonïau crefyddol a chymdeithasol arferol – rwy’n gwybod hynny. Ond, mae’r aberth hon heddiw yn cadw ein teulu; ein ffrindiau; ein cymuned yn ddiogel. A daw’r dyddiau gwell yn ôl yn gynt.
Wrth inni baratoi am gyfnod anodd o’n blaenau, bydd Llywodraeth Cymru’n dal i drafod yn agos gyda chynrychiolwyr pob ffydd a diwylliant. Mae’n bwysig deall, a pharchu, traddodiadau a defodau pwysig wrth inni ymateb i’r pandemig.
Hoffwn ddymuno Ramadan Mubarak i chi – ac ar amser mor anodd, gobeithio cewch chi fyfyrdod a heddwch.
Mark Drakeford - Prif Weinidog Cymru