Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid parhaus er mwyn i blant barhau i dderbyn prydau ysgol am ddim drwy gydol gwyliau’r haf fel ymateb i bandemig y coronafeirws.
Heddiw (dydd Mercher, Ebrill 22) mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cadarnhau y bydd pob plentyn sy’n gymwys yn derbyn swm cyfatebol i £19.50 yr wythnos.
Gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £33m ar gael i helpu awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid ac arweiniad ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim nes bod ysgolion yn ailagor neu tan ddiwedd mis Awst.
Pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai ysgolion yn cau ar gyfer dosbarthiadau arferol ar Fawrth 18, cadarnhaodd y byddai £7m ar gael i awdurdodau lleol i ddarparu trefniadau ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Ar ôl mis o awdurdodau lleol yn darparu prydau ysgol am ddim i gymunedau ledled Cymru, ac yn dilyn adolygiad o’r posibilrwydd o fabwysiadu cynllun talebau cenedlaethol, dywedodd y Gweinidog Addysg mai’r ffordd ymlaen i Gymru oedd i’r awdurdodau lleol benderfynu beth sy’n gweithio orau i’w cymunedau lleol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg:
“Mae gennym ni hyder yn y ffordd mae awdurdodau lleol wedi ymateb yn gyflym i’r argyfwng yma ac rydym yn ymwybodol bod y dulliau gweithredu lleol yn gweithio’n dda.
“Ar ôl ystyried a fyddai cynllun talebau cenedlaethol yn gweithio, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r dull hwnnw o weithredu.
“Rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol, yn ariannol a thrwy gyfarwyddyd adolygedig, i ddarparu atebion lleol tra mae’r ysgolion yn parhau ar gau.
“Gallaf gadarnhau y byddwn yn darparu £33m i alluogi awdurdodau lleol i barhau â’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim nes bod yr ysgolion yn ailagor neu hyd at ddiwedd mis Awst.”
Mae’r cadarnhad gan y Gweinidog yn golygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddarparu sicrwydd parhaus i gefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol dros yr haf.
Yn y cyfarwyddyd adolygedig sydd wedi’i roi i awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu tri opsiwn ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim sy’n gofyn am gyn lleied â phosib o ryngweithio cymdeithasol:
- Darparu talebau
- Dosbarthu eitemau bwyd i deuluoedd disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim
- Trosglwyddo cyllid i gyfrifon banc teuluoedd sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (taliadau BACS)
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Siaradwr Addysg CLlLC:
“Mae awdurdodau lleol wedi gweithredu ar frys i sicrhau bod trefniadau yn eu lle i ddarparu prydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys. Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu pecyn ariannol sy’n golygu y bydd awdurdodau lleol yn gallu parhau i ddarparu’r gefnogaeth hon drwy gydol gwyliau’r ysgol dros yr haf neu nes bydd yr ysgolion yn ailagor.”
I gael gwybod sut bydd eich cyngor lleol yn darparu prydau ysgol am ddim, defnyddiwch y swyddogaeth chwilio am god post yma: https://llyw.cymru/prydau-ysgol-am-ddim-canllawiau-coronafirws-i-ysgolion
Os ydych chi’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond nad ydych yn eu derbyn eto, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.