Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae tystiolaeth gynyddol fod haint COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar unigolion o gefndiroedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME). Roedd llawer o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd yn anffodus wedi marw o COVID-19 yn dod o gefndiroedd BAME.
Mae’r dystiolaeth yn dal i esblygu ond, fel enghraifft, mae Canolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys y DU (ICNARC) yn dangos bod llawer mwy o gleifion o gefndiroedd BAME angen gofal critigol nag a ddisgwyliwyd wrth ystyried y nifer o achosion o’r feirws sydd i’w gael yn y boblogaeth yn gyffredinol. Mae’r adroddiad i’w weld drwy ddilyn y ddolen a ganlyn: https://www.icnarc.org/Our-Audit/Audits/Cmp/Reports
Nid ydym yn deall yn union pam mae’r feirws yn cael y fath effaith. Mae cyfradd uwch o bobl o gefndiroedd BAME sydd â chanddynt gyflyrau iechyd eisoes, cyflyrau fel diabetes math 2 a phwysedd gwaed uchel. Mae’n bosibl mai dyma’r rheswm pam eu bod yn fwy agored i niwed gan y feirws.
Mae angen ymchwilio ar fyrder i ddeall y ffactorau sy’n gyfrifol am hyn. Yn benodol, mae angen inni nodi ar fyrder y dystiolaeth a fydd yn ein galluogi i weithredu ar sail yr wybodaeth orau bosibl a gwneud popeth y gallwn i leihau niwed y mae modd ei osgoi ymhlith grwpiau agored i niwed.
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn dechrau ar waith i bennu a oes unrhyw ffactorau y gellir eu hadnabod a allai fod o gymorth er mwyn penderfynu a oes angen i’r cyngor cyhoeddus fod yn wahanol mewn perthynas â chydafiachedd, ynysu, gwarchod a chyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer unigolion o gefndiroedd BAME.
Mae system monitro marwolaethau newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi’i datblygu ymhellach, yn gweithio drwy borthol clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd y system hon yn casglu data manylach am farwolaethau oherwydd COVID-19. Gofynnwyd i bob bwrdd iechyd gofnodi’r wybodaeth angenrheidiol. Bydd y broses adrodd yn casglu rhagor o fanylion ynglŷn â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwybodaeth am ethnigrwydd.
Fel ymateb i adroddiad Canolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys y DU, mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi comisiynu adolygiad ffurfiol gan Public Health England a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr i’r lefel o farwolaethau o COVID-19 yr ymddengys ei bod yn uwch ymhlith unigolion o gefndiroedd BAME. Bydd Cymru yn cyfrannu at y gwaith hwn oherwydd efallai na fydd ein data ni ein hunain yn cynnwys digon o niferoedd ar gyfer cynnal dadansoddiad sy’n ddigon cadarn. Drwy gymryd rhan, bydd Cymru hefyd yn gallu dysgu gan ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chymunedau BAME a fydd yn ein cynghori ac yn dylanwadu ar ein cynlluniau a’n hymateb i COVID-19.
Yn olaf, hoffwn fynegi fy mhryderon ynglŷn â’r darlun sy’n datblygu. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn dysgu yn gyflym er mwyn inni allu diogelu pobl Cymru yn y ffordd orau rhag niwed yn sgil COVID-19. Rwy’n cydnabod hefyd fy nyletswydd gofal dros bob un sy’n gweithio mor gydwybodol yn ein system iechyd a gofal i gefnogi pobl Cymru.