O weithredu fel y lle cyntaf i bobl â symptomau, i helpu pobl gyda taliadau morgais, biliau a band eang, mae gweithwyr canolfannau cyswllt yn rhoi sicrwydd a chymorth pob diwrnod i helpu pobl ledled y wlad.
Heddiw, roedd Ken Skates Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn diolch i filoedd o bobl sy’n gweithio mewn canolfannau cyswllt am ddarparu gwasanaeth hollbwysig a chefnogi iechyd meddwl ac economaidd pobl a busnesau.
Dywedodd eu bod yn cynnig “cymorth hanfodol” i bobl yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae’r Lloyds Banking Group, aelod o Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, wedi anfon 80 miliwn o ebyst a llythyrau a 15 miliwn o negeseuon testun, gan dargedu gwahanol grwpiau o gwsmeriaid allai fod yn wynebu anawsterau yn ystod y pandemig.
Mae hefyd wedi sefydlu llinell ffôn benodol ar gyfer gweithwyr y GIG i helpu iddynt edrych ar ȏl eraill.
Meddai Lee Jones, pennaeth Canolfannau Cyswllt Grŵp Bancio Lloyds yng Nghasnewydd:
Ers i’r llinell ffôn agor ar 2 Ebrill, mae cydweithwyr yn y Ganolfan wedi gallu helpu mwy na 2,500 o weithwyr y GIG.
Dyma eich ffordd o ofalu amdanyn nhw wrth iddyn nhw ofalu am eraill.
Mae’r diwydiant wedi gorfod addasu i’r rheolau aros gartref newydd, sy’n gofyn i bobl weithio o gartref pryd bynnag y byddai hynny’n bosibl. Mae nifer o ganolfannau wedi mabwysiadu arferion gweithio hyblyg.
Mae gan Ventrica, aelod arall o Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, 800 o weithwyr sy’n gweithio o gartref ac yn defnyddio cyfarpar cyfathrebu, megis Microsoft Teams, i gadw mewn cysylltiad.
Meddai Sandra Busby, rheolwr gyfarwyddwr Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru:
Mae’r argyfwng coronafeirws wedi golygu bod angen help ar fwy ohonom nag ar unrhyw adeg mewn cof.
Rydym yn dibynnu ar ein cysylltiadau band eang gartref mwy nag erioed o’r blaen i redeg busnesau, am adloniant ac i gadw mewn cysylltiad, tra bod gan filoedd o bbol bryderon ynghylch biliau, taliadau morgais, polisïau yswiriant neu wyliau sydd wedi’u cynllunio.
Mae hwn yn amser anodd i nifer o bobl ac mae ar bob un ohonom angen y tawelwch meddwl i wybod y gallwn godi’r ffôn, anfon e-bost neu agor sgwrs ar y we am symptom, bil neu bolisi, a bydd rhywun yno i helpu.
Efallai nad ydym yn meddwl am asiantwyr mewn canolfannau cyswllt fel gweithwyr hanfodol, ond canolfannau cyswllt yw’r arwyr tawel yn yr argyfwng hwn.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
Rwyf am ddiolch i weithwyr y canolfannau cyswllt, y rheolwyr a’r diwydiant yn gyfangwbl am y ffordd y maent wedi ymateb i’r argyfwng hwn.
Mae ein harwyr gofal iechyd yn achub bywydau pob diwrnod, ond mae nifer o bobl eraill yn darparu gwasanaethau hollbwysig nad yw’r cyhoedd yn eu gweld.
Diolch ichi i gyd am bopeth yr ydych yn ei wneud i gefnogi unigolion, teuluoedd a busnesau ym mhob rhan o Gymru.