Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Rwyf heddiw’n ymestyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion i’n hymgynghoriad ar ryddhad ardrethi i elusennau ar gyfer ysgolion ac ysbytai preifat yng Nghymru.
Agorwyd yr ymgynghoriad ar 31 Ionawr ac roedd i fod i ddod i ben ar 24 Ebrill. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y pwysau sylweddol ar randdeiliaid allweddol o ganlyniad i’r achosion o COVID-19 ac wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn tan 29 Mai.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn a oes angen diwygio’r rhyddhad ardrethi i elusennau ar gyfer ysgolion ac ysbytai. Ein bwriad yw sicrhau bod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu drwy ei chynlluniau rhyddhad ardrethi yn cael ei dargedu mewn modd teg a chyson. Er bod yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ryddhad elusennol i ysgolion ac ysbytai preifat, hoffem hefyd gael gwybod barn ar ddulliau eraill a allai helpu i sicrhau bod rhyddhad elusennol yn cael ei dargedu’n effeithiol.
Rwy’n edrych ymlaen at weld pob un o’r cyfraniadau ar y mater pwysig hwn.