Prif Weinidog Cymru ar ymestyn clo COVID-19 yn dilyn y cyfarfod COBR heddiw.
Dywedodd y Prif Weinidog:
Yn gynharach prynhawn yma, roeddwn i a Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn rhan o gyfarfod COBR Llywodraeth y DU.
Roeddem i gyd wedi cadarnhau y dylai'r cyfyngiadau presennol i achub bywydau a diogelu'r Gwasanaeth Iechyd barhau am 3 wythnos arall.
Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth wyddonol arbenigol o'r data diweddaraf ar achosion y coronafeirws ledled y DU.
Rwyf yn gwybod fod y tair wythnos ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl.
Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am y ffordd y mae pob un ohonoch wedi delio â'r amgylchiadau heriol yma.
Er ein bod wedi gweld rhai arwyddion cadarnhaol yn y data, ni allwn ac ni ddylem fod yn hunanfodlon ynglŷn â'r feirws.
Mae llawer mwy o fywydau yn y fantol, ac mae gormod o deuluoedd eisoes wedi colli anwyliaid.
Mae’r penderfyniad o ymestyn cyfnod y cyfyngiadau yn un anodd, ac nid ydym wedi'i gymryd yn ysgafn.
Ond ni allwn fentro taflu'r holl waith rydym wedi ei wneud dros yr wythnosau diwethaf trwy godi y rhwystron yn rhy fuan.
Gallai hynny olygu mwy o farwolaethau, a hyd yn oed mwy o effaith ar swyddi a bywoliaeth pobl.
Bydd ein dull yn parhau i ddilyn y gwyddoniaeth, a byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir - ar yr adeg iawn - i achub bywydau ac amddiffyn ein gwasanaeth iechyd.