Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Gorffennaf 2017.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 556 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn am eich barn ar agweddau yn ymwneud â'r gweithlu o fewn cam 2 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r Ddeddf yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu sy'n amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal a chymorth diogel, priodol gydag urddas.
Rydym yn ymgynghori ynghylch cynigion yn ymwneud â recriwtio, cadw gweithwyr ac arferion gwaith yn y sector gofal cartref, er mwyn ei helpu i ddarparu gofal o'r ansawdd gorau posib.
Mae'r rheoliadau drafft:
- yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth cartref wahaniaethu rhwng amser teithio ac amser gofal
- a rhoi dewis arall yn lle contractau dim oriau i staff gofal cartref.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am sylwadau ynghylch y canlynol:
- agor y gofrestr gweithwyr cymdeithasol i'r rhai sy'n gyflogedig mewn gwasanaethau cymorth cartref o 2018 ymlaen
- sut y gallwn roi sylw i heriau presennol o ran recriwtio a chadw rheolwyr gofal cymdeithasol hyfforddedig.
Rydym yn cynnal digwyddiadau rhannu gwybodaeth:
- Caerdydd - 21 Mehefin 2017
- Wrecsam - 13 Gorffennaf 2017
Er mwyn bod yn bresennol, cysylltwch â RISCACT2016@wales.gsi.gov.uk erbyn 19 Mehefin (digwyddiad Caerdydd) neu 30 Mehefin (digwyddiad Wrecsam). Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, ac maent ac yn dibynnu ar argaeledd.