Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn atgoffa pobl i chwarae eu rhan i ddiogelu ei gilydd a’r GIG drwy fod yn gyfrifol wrth wneud eu hymarfer corff dros y penwythnos.
Mae llywbrau cyhoeddus a thir mewn sawl ardal boblogaidd ledled Cymru wedi eu cau er mwyn atal pobl rhag casglu yno. Mae gan awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru bwerau i gau llwybrau yn eu hardaloedd os yw y defnydd ohonynt yn achosi risg uchel o ran lledaenu’r haint yn eu hardaloedd.
Er bod rhan fwyaf y llwybrau yn parhau ar agor, mae’r Dirprwy Weinidog wedi apelio i bobl, yn enwedig pobl sy’n cerdded eu cŵn – gadw at y rheolau canlynol:
- Peidio teithio – ymarfer y tu allan yn agos at eich cartref
- Mynd ar eich pen eich hun neu gydag aelodau eich cartref
- Cadw 2 fetr o eraill drwy’r amser
- Bod yn ofalus gyda golchi’r dwylo a hylendid – mae pobl yn cyffwrdd clwydi, camfeydd a strwythurau eraill y tu allan yn rheolaidd
- Peidiwch â gwneud unrhwy weithgareddau newydd neu beryglus – byddwch yn ofalus yn ystod y cyfnod hwn ble y mae mwy o faich ar ein gwasanaethau brys a iechyd
- Dilyn y Cod Cefn Gwlad – cofiwch am ffermwyr ac eraill sy’n gweithio’n galed i wneud yn siwr bod ein silffoedd yn llawn a’r seilwaith yn parhau i wethio.
- Cadwch eich cŵn ar dennyn
Meddai’r Dirprwy Weinidog:
Rydym yn lwcus iawn i fyw mewn rhan mor brydferth o’r byd ond bydd y prydferddwrch naturiol hwn yma o hyd wedi’r argyfwng hwn.
Os oes gennych dir fferm sy’n agos at adref a’ch bod yn defnyddio llwybrau cyhoeddus i’w groesi, cofiwch eich bod yn cerdded trwy gartref a lle gwaith rhywun.
Fel gyda gweddill y boblogaeth, bydd nifer o ffermwyr yn hunan-ynysu a hefyd yn gofalu am eu da byw. Ni fydd neb ar gael i ofalu am yr anifeiliaid a chynhyrchu y bwyd rydych ei angen os fyddant yn mynd yn wael.
Byddwch yn ymwybodol o gadw pellter cymdeithasol drwy’r amser, yn enwedig wrth gerdded drwy fuarthau ffermydd, a chofiwch bod pobl yn cyffwrdd clwydi a chamfeydd yn rheolaidd.
Dilynwch y cod cefn gwlad. Cadwch at y llwybr, a gadael unrhyw glwydi fel yr oeddent, ac yn bwysicaf oll, cadwch eich cŵn ar dennyn wrth dda byw. Rydym yng nghannol y tymor wyna ar hyn o bryd, cyfnod pan fo da byw yn arbennig o fregus, a gall hyd yn oed y ci mwyaf ufydd redeg ar ôl anifeiliaid fferm.