Straeon addysg uwch: Y teulu Humphreys o Drefaldwyn
Rhieni i bedwar o Bowys yn croesawu pecyn cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr Cymru
Fe wnaeth Cyndy a Phil Humphreys o Drefaldwyn, Powys, gefnogi penderfyniad eu plant i fynd i brifysgol, a bydden nhw wedi gwneud “popeth posib i’w helpu i ddilyn eu breuddwydion”.
Mae gan y cwpl bedwar o blant – Marcus 36 oed, Lucy 34 oed, Tristan 31 oed, ac mae Cameron 19 oed wrthi’n astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd.
Penderfynodd Cyndy, 61 oed, athrawes wedi ymddeol, a’i gwr Phil, 67 oed, sy’n bensaer, dalu costau llety eu plant yn y brifysgol a chyfrannu at eu costau byw hefyd.
Meddai Cyndy:
“Ond roedd yn golygu bod pob un yn gorfod cael benthyciad myfyrwyr ar gyfer eu ffioedd a chostau byw eraill, ond roeddem am sicrhau eu bod nhw’n cael y profiad gorau trwy roi cymorth ariannol iddyn nhw, ond eu bod nhw’n dal i ddeall gwerth arian.
Mae’r pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr gan Lywodraeth Cymru yn swnio’n syniad da iawn, gan ei fod yn annog plant i fyw’n annibynnol ac oddi cartref, er mwyn cael gwir brofiad prifysgol. Mae’n golygu’ch bod chi’n dysgu i ymdopi ar eich pen eich hun gyda chymorth ychwanegol i fyw.
Fel athrawes, dw i’n ymwybodol iawn o’r anawsterau sy’n wynebu pobl ifanc sydd eisiau mynd i brifysgol. Dw i’n credu bod pobl ifanc yn fwy craff yn ariannol heddiw, ond yn wynebu llawer o gyfyngiadau ariannol hefyd - mae costau byw mor uchel ac felly mae cynilo’n dipyn o her, heb sôn am gostau gofal plant a’r holl gystadleuaeth am swyddi. Mae gradd prifysgol yn help i’ch rhoi ar ben ffordd o ran cael eich swydd ddelfrydol, ac yn dangos eich bod chi’n ymroddedig.””
Bu’r mab hynaf, Marcus 36 oed, yn astudio’r gyfraith ac mae’n gweithio fel swyddog prosiect i’r GIG erbyn hyn. I faes addysg aeth Lucy, 34 oed, ac mae’n athrawes bellach. Bu Tristan yn astudio gwleidyddiaeth ac mae’n Swyddog arweiniol Cymru dros Coeliac UK bellach.
Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol
O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio