Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Medi 2017.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 470 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael gwybod eich barn ar ein cynigion ar gyfer newidiadau i allbynnau ystadegol gwastraff trefol awdurdodau lleol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ar hyn o bryd, caiff data gwastraff trefol awdurdodau lleol chwarterol dros dro ei gyhoeddi mewn pedwar datganiad ystadegol chwarterol manwl. Caiff data chwarterol ei gyhoeddi hefyd ar StatsCymru. Caiff y data blynyddol (blwyddyn ariannol) ei gyhoeddi a'i ddadansoddi mewn bwletin ystadegol blynyddol manwl yn ystod y mis Hydref wedi diwedd y flwyddyn ariannol. Caiff y data blynyddol cysylltiedig ei gyhoeddi ar StatsCymru.
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i:
- roi'r gorau i gyhoeddi y datganiad ystadegol chwarterol a'i ddisodli gyda pennawd ystadegol byr sy'n rhoi amlinelliad o'r prif bwyntiau ar lefel Cymru.
- rhoi'r gorau i gyhoeddi data dros dro ar gyfer Chwarter 4 ym mis Awst, a chyhoeddi data Chwarter 4 fel rhan o ddatganiad blynyddol terfynol ym mis Hydref. Byddai'r datganiad blynyddol yn rhoi dadansoddiad manwl o ddata gwastraff trefol yr awdurdod lleol, a byddai'n dod gyda tablau data StatsCymru.