Eich awdurdod cynllunio lleol sy’n penderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio.
Mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol:
- Sicrhau bod modd i’r cyhoedd weld pob cais cynllunio
- Ystyried unrhyw sylwadau wrth wneud penderfyniad
Mae penderfyniadau’n seiliedig ar y cynllun datblygu lleol. Gallai materion eraill y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn credu eu bod yn berthnasol ddylanwadu arnynt.
Cysylltwch â’ch awdurdod cynllunio lleol i gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno sylwadau ar gais cynllunio.