Datganiad gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi gofyn i bawb yng Nghymru wneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau. Rydyn ni wedi gofyn i chi aros gartref. Rydyn ni wedi gofyn i chi weithio o gartref os allwch chi, a pheidio â theithio oni bai fod hynny yn gwbl angenrheidiol.
“Rydyn ni wedi gwneud hyn er mwyn arafu lledaeniad coronafeirws yng Nghymru. I achub bywydau ac i warchod ein GIG.
“Ond nawr mae'n rhaid i ni gyflwyno mwy o fesurau sy'n llymach fyth.
“O nawr ymlaen, bydd pob un o siopau'r stryd fawr ar gau, ac eithrio'r rhai sy'n gwerthu bwyd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post.
“Bydd gwasanaethau GIG lleol, gan gynnwys eich meddyg teulu, yn parhau i fod ar agor.
"Ni ddylai digwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys priodasau, gwasanaethau bedydd a seremonïau eraill, yn ogystal â chyfarfodydd o fwy na dau o bobl yn gyhoeddus, ddigwydd o gwbl. Bydd angladdau yn parhau i gael eu cynnal ond dim ond gyda'r teulu agosaf yn bresennol.
“Rydyn ni'n gofyn i bawb aros gartref - plîs peidiwch â mynd allan dim ond unwaith y dydd i siopa am fwyd sylfaenol os oes raid i chi, ac i ymarfer yn agos at eich cartref.
“Dylai pawb weithio o gartref nawr hefyd, os allwch chi.
“Nawr mae'r rhain yn newidiadau mawr iawn i ni i gyd. Rydyn ni'n eu gwneud nhw oherwydd y cyflymder y mae'r feirws yn parhau i ledaenu.
“Plîs helpwch ni i'ch gwarchod chi ac achub bywydau. Gyda'n gilydd, fe allwn ni wneud hyn."