Heddiw cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fesurau newydd cadarn er mwyn arafu lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru ac arbed bywydau.
O heddiw ymlaen, bydd parciau carafanau, safleoedd gwersylla, cyrchfannau twristiaid ac ardaloedd hardd poblogaidd ar gau i ymwelwyr.
Mae awdurdodau lleol hefyd yn gorfodi tafarnau ledled Cymru i gau yn dilyn adroddiadau bod rhai yn anwybyddu gorchymyn dydd Sadwrn. Gallai’r rheini sy’n parhau i fasnachu golli eu trwydded.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Mae Cymru yn wlad hardd ac yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn – ond nid nawr yw’r amser ar gyfer teithio diangen. Rydyn ni eisiau i bobl ddod i Gymru pan fydd bygythiad y coronafeirws wedi pasio.
“Heddiw, rydyn ni’n cymryd camau i gau parciau carafanau, safleoedd gwersylla a rhai o’r safleoedd mwyaf amlwg i ymwelwyr er mwyn diogelu pobl a lleihau’r pwysau ar ein GIG.
“Mae fy neges yn syml. Arhoswch gartref er mwyn arbed bywydau.”
Daw’r mesurau llymach yn sgil pryder cynyddol nad yw llawer o bobl yn dilyn canllawiau’r llywodraeth ynghylch lleihau eu cyswllt â phobl eraill – ymgasglodd tyrfaoedd mawr yn rhai o gyrchfannau awyr agored prysuraf Cymru dros y penwythnos.
Gofynnir i bobl sy’n gwersylla neu’n aros mewn carafán ar wyliau ddechrau dychwelyd i’w cartrefi o heddiw ymlaen wrth i safleoedd a pharciau gwyliau gau, oni bai bod yna resymau eithriadol ganddynt dros aros.
Ni fydd y mesurau newydd hyn yn effeithio ar y bobl hynny sy’n byw’n barhaol mewn parciau carafanau.
Dywedodd Emyr Williams, swyddog arweiniol Parciau Cenedlaethol Cymru:
“Rydyn ni’n croesawu’r cam hwn. Mae’n hanfodol nad yw pobl yn teithio’n ddiangen ar hyn o bryd, gan roi ein hardaloedd gwledig dan bwysau.
“Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, byddwn yn cau mynediad i gyrchfannau poblogaidd fel yr Wyddfa, ac rwy’n gwybod bod fy nghydweithwyr ym Mharciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro yn cymryd camau tebyg, gan gau, er enghraifft, lwybrau at Fynydd Pen-y-fâl (Sugar Loaf) a Phen-y-Fan.”
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton;
“Mae’n bwysig bod pobl yn parhau i wneud ymarfer corff, ond gwnewch hyn yn nes at adref.
“Mae angen inni wneud ein gorau glas i atal lledaeniad y feirws hwn – mae hynny’n golygu peidio â theithio oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol ac osgoi cyswllt agos â phobl eraill drwy sefyll ddwy fetr i ffwrdd.
“Dylai pawb hefyd barhau i olchi eu dwylo’n rheolaidd â sebon a dŵr poeth.”
Ddydd Sadwrn, daeth rheoliadau brys i rym yng Nghymru i gau bariau, tafarnau a bwytai er mwyn arafu lledaeniad y coronafeirws.
Ond cafwyd adroddiadau bod rhai tafarnau yn parhau i agor fel arfer er gwaethaf y cyfyngiadau cenedlaethol. Bydd awdurdodau lleol yn gorfodi’r rheoliadau, a gallai perchnogion tafarnau golli eu trwydded os cânt eu dal yn anwybyddu’r gwaharddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Rydyn ni wedi ein dal mewn pandemig iechyd cyhoeddus na welwyd ei debyg, ac mae nifer y marwolaethau, yn drasig iawn, yn cynyddu bob dydd.
“Er bod y mwyafrif helaeth o fusnesau wedi bod yn cydymffurfio â mesurau’r llywodraeth, yn siomedig iawn rydyn ni’n gorfod ymchwilio i leiafrif anghyfrifol o dafarnau a bwytai sydd wedi dewis anwybyddu cyngor arbenigwyr iechyd cyhoeddus a gorchmynion cyfreithiol.
“Mae lledaeniad y coronafeirws yn fygythiad difrifol i bob un ohonon ni. Mae fy nghyd-arweinwyr yn y cyngor a minnau yn gwbl glir – ein blaenoriaeth yw diogelu ein trigolion, yn enwedig yn wyneb y feirws marwol hwn.
“Lle bynnag y down o hyd i safleoedd sy’n anwybyddu mesurau’r llywodraeth, rydyn ni’n barod i ddefnyddio pob pŵer gorfodi sydd ar gael inni er mwyn gwarchod y cyhoedd rhag niwed.”