Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ymhellach i’m datganiad ar 18 Mawrth, gallaf gadarnhau bod y Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi’r canllawiau canlynol ar gyfer GIG Cymru.
Cafodd y coronafeirws newydd ei deipio a’i adnabod yn enetig ar 7 Ionawr 2020. Dair wythnos yn ddiweddarach, roedd y ganolfan feiroleg arbenigol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dechrau profi am y feirws hwn. Mae’r capasiti profi wedi parhau i gael ei gynyddu a gall Iechyd Cyhoeddus Cymru nawr wneud dros 800 o brofion y dydd.
O 1 Ebrill, bydd modd gwneud 5,000 o brofion pellach y dydd (cyfanswm – 6,000 y dydd).
O 7 Ebrill, bydd modd gwneud 2,000 o brofion pellach y dydd (cyfanswm – 8,000 y dydd).
Erbyn diwedd mis Ebrill, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn anelu at allu gwneud hyd at 9,000 o brofion y dydd yng Nghymru.
Mae hefyd lawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar lefel y DU i roi prawf newydd ar waith. Nid oes amcangyfrif ar hyn o bryd o ran pryd y bydd y prawf hwn ar gael na faint o brofion newydd y dydd y bydd modd eu gwneud yng Nghymru, ond byddaf yn darparu’r wybodaeth hon pan fydd gennym y manylion.
Hoffwn atgoffa pawb bod hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol yn hollol hanfodol ar hyn o bryd os ydym am oedi lledaeniad y feirws hwn. Mae angen inni i gyd ddilyn y cyngor hwn nawr i ddiogelu ein gilydd a’n teuluoedd a helpu i sicrhau nad yw ein Gwasanaeth Iechyd yn cael ei lethu gan achosion.
Fel yr arfer, byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi.