Mae’r ymchwil hwn wedi’i anelu at ddeall profiadau a barn athrawon newydd gymhwyso (ANG) am eu cyrsiau sefydlu.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfu’r gwaith ymchwil fod ychydig dros hanner yr athrawon sy’n cychwyn y broses sefydlu yn ei chwblhau o fewn blwyddyn.
Er bod yna ystod eang o wybodaeth fanwl, ragorol i ategu’r broses sefydlu gan nifer o ffynonellau a sefydliadau, nid yw llawer o ANG yn gwbl ymwybodol o ofynion a rôl y broses, ac maent yn colli’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Mae’r trefniadau presennol yn eithaf addas ar gyfer athrawon ANG. Eto i gyd, mae’r profiad sefydlu ar gyfer athrawon ANG sy’n cyflenwi yn heriol.
Gwneir chwech argymhelliad, gan gynnwys:
- gwella’r cyfathrebu ynghylch proses sefydlu athrawon ANG a’r gefnogaeth sydd iddynt, a chynnig rhywfaint o gefnogaeth ar ôl y cyfnod sefydlu
- cryfhau gofynion asiantaethau cyflenwi, a darparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau tymor hirach i athrawon ANG sy’n cyflenwi mewn un ysgol
Adroddiadau
Ymchwil ar drefniadau sefydlu statudol athrawon , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Sara James
Rhif ffôn: 0300 025 6812
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.