Mae gwellt a chytleri plastig, a chynwysyddion bwyd a diod polystyren i gael eu gwahardd yng Nghymru fel rhan o fesurau ehangach i wneud Cymru yn brif wlad ailgylchu y byd, meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol heddiw.
I nodi Diwrnod Ailgylchu Byd-eang, mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyfyngu ar blastigau untro, anodd i’w hailgylchu ac sy’n creu sbwriel cyffredinol, fel rhan o ymdrechion ehangach i fynd i’r afael â’r broblem o lygredd plastig, a helpu i symud Cymru tuag at economi gylchol.
Mae’r plastigau untro yn cynnwys:
- gwellt
- troellwyr
- bydiau cotwm
- ffyn balŵn
- platiau a chytleri
- cynwysyddion bwyd a diod wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ehangu, a
- chynnyrch wedi’i wneud o blastig oxo-bioddiraddiadwy; megis rhai mathau o fagiau siopa
Mae hyn yn rhan o ddull ehangach, integredig o fynd i’r afael â phroblemau sy’n cael eu creu gan ormod o blastig a sbwriel mewn cymunedau.
Cynhelir ymgynghoriad o’r cynigion yn y misoedd nesaf; gyda chyfyngiadau i ddod i rym yn hanner cyntaf 2021.
Mae llygredd plastig yn cael effaith ar bob amgylchedd yng Nghymru, yn enwedig traethau ac arfordiroedd Cymru, allai achosi niwed i fywyd morol. Yn 2019 mewn astudiaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd cyfran fawr o’r sbwriel a gasglwyd yn cynnwys eitemau plastig.
Nod y mesurau newydd hyn yw rhwystro sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf, gan gadw adnoddau gwerthfawr yn y system a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gludo i safleoedd tirlenwi.
Mae gwahardd amrywiol blastig untro yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru at arwain y byd yn y maes hwn ac mae’n dangos sut y mae Cymru wedi arwain y ffordd.
Meddai Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Mae’r plastig untro yr ydym am eu gwahardd yn anodd i’w hailgylchu ac maent i’w cael yn aml ar draethau a moroedd o amgylch ein harfordiroedd, gan ddifetha ein gwlad a niweidio ein hamgylchedd naturiol a morol.
“Mae’n hollbwysig nad ydym yn taflu ein dyfodol i ffwrdd – a dyma pam rydyn ni’n credu y bydd y gweithredu uniongyrchol hwn yn cael effaith sylweddol ar newid ymddygiad pobl a gwneud iddyn nhw ystyried eu gwastraff pan y mae nhw’n teithio o gwmpas.
“Mae’r mesurau dwi yn eu cyhoeddi heddiw yn rhan o ystod o atebion posibl i’r broblem blastig. Dwi wedi ymrwymo i gydweithio â rhanddeiliaid i ddeall effaith y cynnig hwn, yn enwedig ar unrhyw ddinasyddion y mae’n bosibl eu bod yn dibynnu ar rai o’r eitemau rydyn ni wedi eu cynnwys, i wneud yn siŵr ein bod yn cael hyn yn iawn. Byddwn yn lansio’r ymgynghoriad ar y cynigion yn fuan, a dwi am annog pobl Cymru i rannu eu barn gyda ni.”
Mae’r ymrwymiad hirdymor i leihau gwastraff a phlastig di-angen wedi’i amlinellu yn strategaeth yr economi gylchol, ‘Tu Hwnt i Ailgylchu’, sy’n anelu at weld Cymru ddi-wastraff erbyn 2050.