Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ffactorau sy'n golygu bod aelwyd yn fwy tebygol o ddioddef amddifadedd materol ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amddifadedd Materol (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Mae amddifadedd materol yn fesur o dlodi ac effaith hynny (sef, i ba raddau mae pobl yn gallu fforddio pethau sylfaenol fel bwyd a gwres). Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cyfres safonol o gwestiynau am amddifadedd materol bob blwyddyn.
Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfweliadau’r Arolwg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2018-19. Mae’n diweddaru’r dadansoddiad blaenorol a oedd yn seiliedig ar arolwg 2014-15.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/pa-ffactorau-syn-gysylltiedig-a-phobl-yn-byw-ar-aelwydydd-sydd-mewn-amddifadedd-materol-thumb_jpg.jpg?itok=8K5E-hxe)
Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â phobl yn byw ar aelwydydd sydd mewn amddifadedd materol? , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Siobhan Evans
Rhif ffôn: 0300 025 6685
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.