Yn y canllaw hwn
4. Ar ôl i chi wneud cais
Eich cyngor lleol fydd yn prosesu eich cais. Byddant yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi gael asesiad symudedd hefyd.
Cyfarfod yw asesiad symudedd lle bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud yn siŵr eich bod:
- yn gymwys am Fathodyn Glas
- yn cael yr holl gefnogaeth bosibl i fynd o le i le
Byddwch yn cael penderfyniad ynghylch eich cais mewn tua 12 wythnos. Os nad yw eich cais yn llwyddiannus, gallwch ofyn iddo gael ei adolygu. Bydd mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn yn y llythyr gan yr awdurdod lleol.