Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg
Ar 21 Ionawr 2020, fe wnes i gadarnhau y bydd disgyblion Cymru yn cael mynediad cyffredinol at y cwricwlwm llawn, gan gynnwys Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fel rhan o'r cwricwlwm newydd.
O fewn y Datganiad Ysgrifenedig hwnnw, dywedais yn glir y byddai angen rhoi'r newid hwn ar waith mewn ffordd ofalus a sensitif. Dywedais hefyd y byddwn yn gosod strwythurau yn eu lle ar gyfer cyfnewid safbwyntiau a sicrhau bod canllawiau clir, adnoddau a dysgu proffesiynol yn cael eu darparu i ysgolion.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein bod yn sefydlu Gweithgor Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i gytuno ar y testunau y bydd gofyn i ysgolion roi sylw iddynt, a chyd-lunio canllawiau manwl i gefnogi'r dysgu. Bydd y gwaith hwn yn dechrau dros yr wythnosau nesaf. Bydd y Gweithgor yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, ymarferwyr, undebau'r athrawon a sefydliadau ffydd. Bydd yn cael ei gadeirio ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol.
Bydd y Gweithgor yn gweithio wrth ochr y Grŵp Cyfranogaeth Ffydd/BAME sydd newydd ei sefydlu. Bydd y Grŵp Cyfranogaeth yn darparu cymorth i sicrhau bod barn cymunedau a safbwyntiau ffydd yn cael eu hystyried.
Dyma gyfle i ni gydweithio er mwyn llunio'r maes dysgu hanfodol bwysig hwn ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.