Astudiaeth annibynnol sy’n edrych ar ddyheadau o ran cyflogaeth, sgiliau a phrofiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’r rhwystrau maent yn eu hwynebu wrth geisio dod o hyd i gyflogaeth.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
Roedd y rhan fwyaf o ffoaduriaid a cheiswyr lloches am ddod o hyd i waith sy’n cyd-fynd â’u diddordebau. Roedd dau draean o’r rheini y siaradwyd â nhw eisiau parhau i weithio yn yr un alwedigaeth ag yr oedden nhw cyn iddynt geisio lloches.
Mae sgiliau a lefelau cymwysterau yn amrywio, ac yn adlewyrchu’r amrywiaeth ymhlith y boblogaeth ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Roedd cyfraddau’r rheini a gymerodd ran mewn Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill fel pwnc yn uchel, ond cyfyngedig oedd nifer y rheini a gymerodd ran mewn mathau eraill o addysg.
O’r rheini a gyfwelwyd yr oedd hawl ganddynt i weithio, roedd gan 40% waith. Nid yw’r gwahaniaethau yn ôl rhyw, lefel sgiliau a hyd eu cyfnod yn y DU yn cael eu datgelu gan y ffigur hwn.
Roedd anghysondeb rhwng eu dyheadau a’u sgiliau a disgwyliadau’r cyflogwyr yn rhwystr allweddol rhag dod o hyd i gyflogaeth. Hyd yn oed lle nad oedd anghysondeb o ran eu dyheadau, roedd rhwystrau eraill i’w cael mewn perthynas ag ymfudo dan orfod yn ogystal â rhwystrau mwy generig.
Adroddiadau
Astudiaeth o gymorth cyflogaeth a sgiliau i ffoaduriaid , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Astudiaeth o gymorth cyflogaeth a sgiliau i ffoaduriaid: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 776 KB
Cyswllt
Tom Cartwright
Rhif ffôn: 0300 025 6024
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.