Heddiw bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi’r weledigaeth gyffrous ar gyfer Coedwig Genedlaethol ar hyd a lled Cymru.
Gyda chymorth gwerth £5 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn hon, bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu ardaloedd newydd o goetir ac yn helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol unigryw Cymru – coetiroedd na fyddai modd eu hadfer pe baent yn cael eu colli.
Bydd £10 miliwn ychwanegol o gyllid ar gael drwy gynlluniau Creu Coetir Glastir ac Adfer Coetir Glastir i gynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu ledled Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn rhwydwaith ecolegol cysylltiedig ledled Cymru, a fydd yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o ddiogelu natur a mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.
Hefyd bydd yn helpu i gynyddu twristiaeth yng Nghymru, gan gael ei hysbrydoli gan Lwybr Arfordir Cymru. Y cyntaf o'i fath yn y byd, mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn am 870 milltir ar hyd arfordir garw Cymru, ac yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn. Cymerodd y gwaith o'i ddatblygu flynyddoedd, ac roedd yn cynnwys cydweithio rhwng llywodraeth, busnesau, tirfeddianwyr a chymunedau.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
Heddiw rydyn ni'n plannu hadau ein huchelgais. Rydyn ni am weithio gyda ffermwyr, sefydliadau gwirfoddol, cynghorau, arbenigwyr yn yr amgylchedd a chymunedau lleol i droi ein huchelgais yn weithredu uniongyrchol a chydymrwymiad hirdymor.
Nid oes modd anwybyddu'r heriau amgylcheddol enfawr mae'r byd yn eu hwynebu – mae’r llifogydd yn ystod mis Chwefror wedi'n hatgoffa ni yng Nghymru am hynny mewn modd dinistriol iawn.
Er mwyn cenedlaethau'r dyfodol mae'n ddyletswydd arnon ni i ddiogelu natur rhag peryglon ein hinsawdd wrth iddi newid, ond bydd amgylchedd naturiol iach hefyd yn amddiffyn ein cymunedau rhag y peryglon rydyn ni ein hunain yn eu hwynebu.
Drwy blannu, tyfu a diogelu'r rhwydwaith cywir o goed, rydyn ni gallu cynyddu ein gallu i wrthsefyll llifogydd. Mae coed yn gwella ansawdd aer; yn tynnu nwyon tŷ gwydr niweidiol o'r atmosffer; yn darparu deunyddiau naturiol ar gyfer adeiladu; yn adfer pridd ar gyfer tyfu bwyd; yn glanhau'r dŵr yn ein hafonydd; ac yn darparu cartrefi ar gyfer yr holl greaduriaid byw sy'n cysgodi yn eu canopi.
Rydyn ni wedi disgrifio ein huchelgais ar gyfer Coedwig Genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Yn ogystal â chynyddu yn sylweddol ein cymorth ar gyfer plannu coed ar unwaith, byddwn ni hefyd yn cynnal cryn waith ymgysylltu i sicrhau ein bod yn gweithredu ar y cyd, gyda llywodraeth, busnesau a chymunedau i gyd yn gweithio tuag at yr un nod.
Bydd y Prif Weinidog, a Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, yn cymryd rhan mewn plannu coed ym Mharc Gwledig Ystad y Gnoll yng Nghastell-nedd, a bydd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn plannu coed yng Nghoed y Felin ar bwys yr Wyddgrug.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
Mae ein coedwigoedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal ein bywyd gwyllt a'n cymunedau. Drwy fuddsoddi mewn coetiroedd cymunedol fel Coed y Felin fel rhan o'r Goedwig Genedlaethol, gallwn ni greu cyfleoedd newydd i bobl brofi natur yn eu cymunedau eu hunain, fel rhan o'n hymdrechion i drawsnewid a gwella mynediad.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn derbyn cymorth gwerth £5 miliwn – mae hyn yn cynnwys £1.5 miliwn i gefnogi coetiroedd cymunedol. Mae cyllid pellach gwerth £10 miliwn drwy gynlluniau Creu Coetir Glastir ac Adfer Coetir Glastir yn cael ei gyhoeddi heddiw – mae'r cyfnod ar gyfer gwneud cais am gyllid yn agor ar 16 Mawrth, a bydd y cyllid yn cyfrannu at gynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu ledled Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn darparu ffordd bwysig o gryfhau'r rhwydweithiau ecolegol sy'n cynnal ein coetiroedd hynafol a chynefinoedd eraill sy'n hanfodol i fywyd gwyllt.
Mae creu rhwydweithiau helaeth newydd o goetir yn uchelgais heriol a hirdymor; fodd bynnag, galla' i weld bod diddordeb yn y syniad yn cynyddu, gyda llawer o sefydliadau a chymunedau ledled Cymru eisoes yn cymryd rhan.
Mae cynyddu cyflymder y plannu coed yng Nghymru yn gofyn am amrediad llawn o fesurau, ac mae'r cynnydd sylweddol i gyllid ar gyfer cynlluniau Glastir a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn gam mawr yn y cyfeiriad cywir.
Dw i'n gwybod y bydd busnesau a chymunedau ac, yn benodol ein ffermwyr a'n coedwigwyr, am helpu i greu'r Goedwig Genedlaethol. Yn y flwyddyn nesaf byddwn yn cynnal trafodaethau helaeth er mwyn inni allu llunio'r rhaglen mewn modd sy'n galluogi pawb i wneud cyfraniad.