Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi croesawu cadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r pwerau brys mae Cymru wedi gofyn amdanynt i fynd i'r afael â Coronafirus (COVID-19).
Daw'r newyddion am y pwerau brys wrth i Brif Swyddog Meddygol Cymru gadarnhau dau achos newydd o COVID-19 yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion i bedwar.
Bydd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i bedair gwlad y DU ac mae Cymru wedi cyfrannu'n llawn at y gwaith o ddatblygu'r pwerau i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau i ymateb i ledaeniad y feirws.
Dywedodd y gweinidog:
Bydd y pwerau brys hyn yn caniatáu i ni ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i achosion COVID-19 drwy gryfhau pwerau cwarantîn ac ymgynnull mewn torfeydd.
Byddant hefyd yn caniatáu i ni gyflogi gwirfoddolwyr a staff sydd wedi gadael y GIG yn ddiweddar, a bydd yn caniatáu cau ysgolion a cholegau os oes angen er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.
Diogelwch y cyhoedd yw fy mhrif flaenoriaeth ac rydym yn gweithio ddydd a nos i ddelio ag effaith COVID-19. Mae'r pwerau hyn yn ffordd bwysig, cymesur a chydgysylltiedig o ymateb i’n helpu ni i wneud hynny.
Nid yw aros am y pwerau hyn yn golygu nad ydym wedi gallu cymryd ystod o gamau eisoes. Yr wythnos hon, bydd mesurau pellach ledled Cymru yn cynnwys dosbarthu offer diogelu personol i bob meddygfa.
Byddwn hefyd yr wythnos hon yn rhoi manylion cynlluniau ar gyfer ymgynghoriadau fideo i bobl yng Nghymru er mwyn helpu i leihau COVID-19 rhag lledaenu a diogelu staff rheng flaen. Mae hyn yn dilyn cyflwyno gwiriwr symptomau ar-lein GIG Cymru sy'n adnodd pwysig arall i gefnogi unrhyw un sy'n poeni y gallent fod angen eu profi.