Cymerwch amser i… Ganmol
Yn ogystal â helpu eu hunan-barch a’u hyder, rwy’n credu bod canmoliaeth yn annog ymddygiad cymwynasgar.
Rwy’n dad sengl ac mae’n llonni fy nghalon pan fo fy mhlant yn trio fy helpu heb i mi hyd yn oed ofyn iddyn nhw. Does dim ots, er enghraifft, os ydy Ayda yn gollwng y dŵr mae hi newydd ei roi i’n ci bach newydd, roedd hi wedi sylwi bod y bowlen yn wag yn y lle cyntaf, a heb i unrhyw un ofyn, mae hi wedi trio gwneud rhywbeth. Rwy’n dweud wrthi “Diolch, Ayda, mae hynny’n helpu Dadi yn fawr iawn, rwy’n falch iawn ohonot ti” ac mae’n amlwg ei bod hi’n teimlo’n dda am wneud hyn ac mae’n falch o’i hun.
Rwy’n credu hefyd ei bod hi’n bwysig i’r plant wybod nad oes ‘tylwyth hud’ sy’n dod yn y nos i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer yr ysgol neu dacluso neu ffeindio esgidiau coll! Wrth gwrs, mae yna adegau pan fo’n rhaid i mi ddweud wrthyn nhw i wneud rhywbeth naw gwaith cyn iddyn nhw ei wneud. Ond rwyf i wedi sylwi wrth iddyn nhw dyfu i fyny, eu bod nhw’n dechrau gwneud pethau heb i mi ofyn, sy’n deimlad gwych. Rwy’n credu eu bod nhw’n deall na all Dadi wneud popeth a fy mod i’n wir ddiolchgar am unrhyw beth maen nhw’n ei wneud i fy helpu.
Yn ein teulu ni, George yw’r un taclus... dydy Ayda ddim cystal!! Mae George yn falch iawn o gadw ei ystafell wely a’i deganau’n daclus ac mae wedi dechrau dwlu ar sgleinio. Rwyf i wastad yn dweud wrtho faint o help mae hynny i mi ac yn dweud pethau fel, “George, rwyt ti’n dda iawn am wneud hyn ac mae’n help mawr i mi” ac rwy’n gallu gweld bod hynny’n gwneud iddo deimlo’n dda am ei hun a’r hyn y mae’n ei wneud. Gydag Ayda, dyw hi ddim yn hoffi tacluso, ond mae hi’n dda gyda’r ci bach newydd - mae hi hyd yn oed yn glanhau ar ôl y ci ac yn dal y tennyn yn gywir. Dydw i ddim yn dweud “pam nad wyt ti mor daclus â George?” yn hytrach rwy’n dweud wrthi hi pa mor falch ydw i ohoni am edrych ar ôl y ci bach. Y bwriad, am wn i, yw canolbwyntio ar eu cryfderau, pwysleisio’r pethau da, a gwneud iddyn nhw deimlo’n dda am beth maen nhw’n gallu ei wneud yn hytrach na’r hyn nad ydyn nhw’n ei wneud yn dda.
O fy mhrofiad i, mae angen canmoliaeth ar blant, ac anogaeth a hyd yn oed gwobr bob hyn a hyn am wneud y pethau nad ydyn nhw o reidrwydd yn hoffi eu gwneud. Ambell waith, mae’n dda i gael gwobr, hyd yn oed os yw hynny dim ond dewis beth i’w gael i swper. Mae siartiau gwobrwyo yn gweithio’n wych i rai rhieni, ond i ni, wnaethon nhw ddim. Fe wnaethom ni drio, ond wnaeth hyn arwain at gystadlu rhwng y ddau a dadleuon, ac i fod yn onest methais â chadw trac ar y cyfan. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i wneud beth bynnag sy’n gweithio i’ch teulu chi, a beth bynnag sy’n gwneud bywyd yn haws i chi. Nid oes ffordd gywir nag anghywir yn fy marn i, mae’n rhaid i chi ffeindio eich ffordd eich hun.
Fy nghyngor ar ganmoliaeth
- Esboniwch y rheswm am y ganmoliaeth
Sicrhewch eu bod nhw’n deall pam eich bod yn eu canmol, yn hytrach na dweud “Da iawn”. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod plant yn deall pam eu bod yn cael eu canmol.
- Mae trio yn bwysicach na llwyddo
Mae’n iawn os nad ydyn nhw’n cael rhywbeth yn iawn, y ffaith eu bod nhw’n trio sy’n bwysig. Rwy’n gwybod ei bod hi’n gallu bod yn rhwystredig os ydyn nhw’n gwneud mwy o lanast yn y broses, sydd weithiau yn digwydd os ydyn nhw’n gwneud rhywbeth newydd, ond byddan nhw’n dysgu; mae’r ymdrech yn talu ffordd!!
- Cynlluniwch yn ôl cryfderau eich plentyn
Os yw’n anodd i mi eu cael i wneud pethau nad ydyn nhw’n eu hoffi, fel bwyta llysiau, neu baratoi pethau ar gyfer y diwrnod canlynol, neu yn achos Ayda tacluso! Rwy’n trio eu canmol pan fyddan nhw’n ei wneud yn y pen draw, hyd yn oes os yw’n cymryd amser iddyn nhw ei wneud. Roeddwn i’n gweld bod rhwystredigaeth yn gwneud iddyn nhw fwynhau ei wneud hyd yn oed llai! Defnyddiwch gryfderau eich plentyn, felly os ydyn nhw’n hoffi gwneud rhywbeth, anogwch nhw. Mae gan bawb bethau maen nhw’n eu hoffi neu ddim yn eu hoffi, ac mae plant yr un peth.
- Mwynhewch
Os oes gennych chi waith tŷ i’w wneud, gwnewch gêm o’r gwaith er mwyn iddo fod yn fwy o hwyl.
- Dywedwch wrthyn nhw eich bod yn gwerthfawrogi eu help!
Rwy’n credu bod plant yn hoffi gwybod eu bod nhw’n eich helpu, er nad ydym ni fel rhieni eisiau iddyn nhw wybod bod angen help arnom ni weithiau. Rwy’n dweud wrthyn nhw bob amser faint rwy’n gwerthfawrogi eu help pan fyddan nhw’n gwneud rhywbeth sy’n fy helpu.