Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru wedi ymweld â dau fusnes yn y Canolbarth sy’n arloesi ym maes ceir trydan – rhai clasurol a rhai newydd.
Ddydd Llun 2 Mawrth ymwelodd Ken Skates â chwmni Electric Classic Cars yn y Drenewydd a chwmni Riversimple yn Llandrindod, gan drafod dyfydol cerbydau trydan a sut y gall y Llywodraeth gynorthwyo’r busnesau i ehangu.
Mae cwmni Electric Classic Cars yn cynnig gwasanaeth adnewyddu ac addasu ceir clasurol. Mae wedi gweithio ar gerbydau mor amrywiol â’r Range Rover Classic, Ferrari 308 a BMW CSi.
Car sy’n defnyddio hydrogen fel tanwydd yw’r Riversimple Rasa, a’r unig allyriadau yw dŵr pur. Golyga hyn nad oes angen batris. Mae’r busnes yn bwriadu newid o werthu ceir i wasanaeth tanysgrifio.
Gyda’i gilydd maent yn rhoi’r gorau i ymwneud â cheir sy’n defnyddio tanwyddau ffosil, ond mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae’r ddau gwmni’n awyddus i ehangu ac maent yn anelu at wynebu gofynion trafnidiaeth ar y ffyrdd at y dyfodol. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar y byddai’n cyflwyno gwaharddiad ar geir petrol, diesel a hybrid erbyn 2035.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bwriad i gefnogi’r broses o drosglwyddo i drafnidiaeth carbon isel. Roedd ei chyllideb ddiweddaraf yn cynnwys £29 miliwn ar gyfer newid i gerbydau ag allyriadau isel, a hynny fel rhan o fuddsoddiad ehangach mewn trafnidiaeth werdd. Eleni yn ogystal bydd strategaeth i Gymru ar gyfer gwefru cerbydau trydan a fydd yn amlinellu mewn rhagor o fanylder swyddogaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyrwyddo ceir trydan yn cael ei chyhoeddi.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd:
"Mae trafnidiaeth carbon isel yn hanfodol inni allu taclo'r argyfwng hinsawdd, ac rydym yn rhoi mwy a mwy o gefnogaeth i helpu'r newid i ddulliau teithio gwyrddach.
"Cefais ymweliad diddorol â dau gwmni sy'n meddwl mewn ffordd arloesol am ddyfodol ceir. Ceir llawer iawn o arbenigedd yn Electric Classic Cars a Riversimple, felly roedd yn gyfle gwych i glywed am eu cynlluniau a thrafod sut y gallwn eu helpu i dyfu.
Dywedodd Richard Morgan, Sylfaenydd Electric Classic Cars:
"Electric Classic Cars yw'r cwmni mwya yn y byd sy'n troi ceir clasurol yn geir trydan ac rydym yn falch mai yn y Canolbarth ydyn ni, ardal sydd â thraddodiad ralïo hir a balch. Rydym yn angerddol ynghylch addasu ceir clasurol ar gyfer yr 21ain ganrif a chadw'n lle blaenllaw mewn marchnad sy'n tyfu mor gyflym.
Hugo Spowers, Pennaeth Riversimple Movement:
"Ein huchelgais yw datblygu clwstwr hydrogen o'r radd flaenaf a swyddi gweithgynhyrchu ledled Cymru, felly rydym yn falch iawn o ymrwymiad y llywodraeth i strategaeth hydrogen i Gymru.